Mwy o Newyddion
Cyhoeddi Cyllid yr Awdurdodau Lleol
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, wedi cyhoeddi setliad dros dro llywodraeth leol ar gyfer 2014-15. Mae’r setliad o £4.26 biliwn, sy’n cael ei gyflwyno mewn cyd-destun ariannol mwy heriol nag erioed, yn golygu gostyngiad o 3.5% ar y flwyddyn flaenorol, o’i addasu ar gyfer trosglwyddiadau.
Wrth gyhoeddi manylion y cyllid, roedd y Gweinidog yn cydnabod bod hwn yn setliad eithriadol o heriol i lywodraeth leol Cymru, ond dywedodd ei fod yn ganlyniad cytbwys o ystyried y toriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae’r rheini’n cyfateb i ostyngiad o £1.7 biliwn erbyn 2015-16 mewn termau real, o’i gymharu â 2010-11.
Amlinellodd y Gweinidog amryw o gamau y mae wedi’u cymryd i’w gwneud yn haws i lywodraeth leol reoli penderfyniadau ariannol anodd, yn ogystal â helpu i gynnal gwasanaethau lleol hanfodol a pharhau i sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl Cymru.
Mae’r rhain yn cynnwys mecanwaith lleddfu i sicrhau nad yw’r un awdurdod lleol yn wynebu gostyngiad gormodol i’w ddyraniad, o’i gymharu â’r flwyddyn gynt, a throsglwyddo gwerth dros £30 miliwn o grantiau penodol o’r portffolio Llywodraeth Leol i’r Grant Cynnal Refeniw, i roi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol reoli eu hadnoddau. Mae’r setliad hefyd yn dal i roi £244 miliwn ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ar ôl i Lywodraeth Glymblaid y DU ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor.
Mae’r setliad yn cynnwys yr adnoddau angenrheidiol i ddarparu amddiffyniad o 1% i gyllid ysgolion, yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau’r canlyniadau gorau i blant Cymru.
Mae dyraniadau cyfalaf llywodraeth leol yn dal i fod yn gryn her, yn sgil y gostyngiadau i’r gyllideb gyfalaf sy’n cael ei dirprwyo i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU. Ond mae’n debyg y bydd y cyllid cyfalaf ar gyfer 2014-15 yn rhoi gwell setliad i’r awdurdodau lleol na’r hyn a awgrymwyd y llynedd.
Dywedodd Lesley Griffiths: “Rwy’n cydnabod bod hwn yn setliad eithriadol o heriol i lywodraeth leol Cymru, sy’n dangos ein bod yn gweithredu mewn cyd-destun ariannol mwy heriol nag erioed. Mae pwysau cyson Llywodraeth Glymblaid y DU ar ein cyllideb wedi’n gorfodi i wneud dewisiadau anodd. Ond er gwaethaf hynny, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi llwyddo i sicrhau gwell canlyniad i awdurdodau lleol Cymru o’u cymharu ag awdurdodau lleol Lloegr, ac mae hynny’n dal yn wir am y setliad hwn.
“Rwyf wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â realiti’r sefyllfa ariannol sy’n wynebu llywodraeth leol Cymru, ac rwyf wedi rhybuddio ynglŷn â’r gostyngiadau tebygol i’r gyllideb. Mae Llywodraeth Cymru wedi cysgodi llywodraeth leol rhag grym y toriadau yn ystod y tair blynedd diwethaf, er mwyn rhoi cyfle i’r awdurdodau baratoi ar gyfer trawsnewid. Roedd angen gwneud hynny er mwyn cynnal gwasanaethau lleol hanfodol, ac osgoi rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar aelwydydd sy’n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.”
Ychwanegodd y Gweinidog: “Rwyf wedi gweithio’n galed i sicrhau’r canlyniad gorau posib i lywodraeth leol, o ystyried y cyfyngiadau ariannol sy’n ein hwynebu. Rwyf hefyd wedi ceisio cynyddu hyblygrwydd, sicrhau tegwch a rhoi cymorth ychwanegol. Mae fy mhenderfyniadau yn dangos cymaint y mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’r amrywiaeth eang o wasanaethau y mae awdurdodau lleol yn eu darparu.”
Mae angen canolbwyntio’n awr ar gynyddu’r ymdrechion i gynnal gwasanaethau o safon sy’n sicrhau canlyniadau cryf drwy weithio mewn ffyrdd mwy effeithlon, mwy arloesol a mwy cydweithredol. Mae’r setliad rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn pwysleisio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol i reoli’r heriau sydd o’n blaenau a pharhau i gyflawni er budd pobl Cymru.”
Mae cyhoeddiad y Gweinidog ynglŷn â’r setliad yn nodi cychwyn cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar 20 Tachwedd 2013.