Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Hydref 2013

Hawliau Anabledd a Gwytnwch

Heddiw bydd Jeff Cuthbert AC, Gweinidog Cymunedau & Trechu Tlodi, yn annerch aelodau Anabled Cymru yn eu cynhadledd flynyddol yn Stadiwm Liberty, Abertawe ar rôl hanfodol gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth wrth sicrhau bydd pobl anabl yn gallu parhau i fynnu eu hawliau, a hynny yn wyneb toriadau sylweddol i fudd-daliadau a gwasanaethau.

Bydd pobl anabl yn gyson yn nodi’r angen am wybodaeth, cyngor, eiriolaeth a chymorth cyfoedion er mwyn hwyluso Byw’n Annibynnol. Ond mae’r Fframwaith Gweithredu Byw’n Annibynnol a lansiwyd yn ddiweddar yn amlinellu rhai o’r materion a rhwystrau mae pobl anabl yn wynebu wrth geisio defnyddio’r gwasanaethau ‘sylfaenol’ hanfodol hyn. Maent yn cynnwys:

·   yn gyffredinol, gwasanaethau cyngor a gwybodaeth yn wan ac anghyson

·   diffyg gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ar gyfer rhai grwpiau

·   pwysigrwydd cyrff pobl anabl wrth ddarparu cymorth ac arbenigedd cyfoedion

·   rhwystredigaeth fod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i ddarparu cyngor a gwybodaeth mewn fformatau anhygyrch

·   dibyniaeth gynyddol ar y rhyngrwyd i ledu cyngor a gwybodaeth sy’n eithrio llawer o bobl anabl.

Bydd y Gynhadledd yn cynnwys pobl anabl, eu cyrff ac asiantaethau cyngor. Y nod eleni yw nodi atebion a rhannu arferion da wrth daclo’r materion hir dymor hyn.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae’r hinsawdd economaidd, toriadau cymorth cyfreithiol, gostyngiadau mewn ffynonellau cyllid cyhoeddus eraill, ynghyd â rhaglen diwygiadau lles Llywodraeth San Steffan, yn effeithio gwasanaethau cyngor a gwybodaeth ar draws y wlad.

“Yn y flwyddyn ariannol hon, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i gefnogi gwaith gwasanaethau cyngor llinell flaen. Y nod yw helpu cyrff i addasu mewn ymateb i’r toriadau a sicrhau bydd dal rhai darparwyr annibynnol ar gael.

“Gyda gwasanaethau cyhoeddus yn gynyddol yn mynd arlein, yn cynnwys hawlio budd-daliadau, mae’n bwysig sicrhau na fydd unigolion yn colli allan. Drwy ein rhaglen cynhwysiad digidol Cymunedau 2.0, rydym yn helpu i wella bywydau pobl wrth ddangos y cyfleoedd mae’r dechnoleg ddiweddaraf yn cynnig. Rwy’n falch o ddweud bod Cymunedau 2.0 yn cydweithio’n agos â chyrff fel Anabledd Cymru i gynyddu nifer y bobl anabl sy’n gallu gwella ansawdd eu bywydau wrth ddefnyddio technolegau digidol.”

Yn ystod y gynhadledd, bydd y Gweinidog yn lansio gwefan newydd Anabledd Cymru. Mae’n rhan o broject Bywydau Digidol a sefydlwyd i daclo eithrio digidol ymhlith pobl anabl, gyda chyllid drwy raglen cynhwysiad digidol Cymunedau 2.0 Llywodraeth Cymru. Cynlluniwyd y wefan ryngweithiol newydd er mwyn hwyluso cyfathrebu a hyrwyddo arferion da ym maes hygyrchedd arlein ar gyfer pobl anabl.

Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Kirsten Hearne, ymgyrchydd anabl profiadol a chynghorydd i’r llywodraeth ac asiantaethau allweddol fel cyfarwyddwraig anweithredol. Yn ogystal, mae’n gweithio fel hyfforddwraig annibynnol, ymchwilydd ac ymgynghorydd. Mae’n gadeirydd Inclusion London, cwmni diddordeb cymunedol cyrff pobl fyddar ac anabl, ac yn is-gadeirydd pwyllgor anabledd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Bydd y Gynhadledd hefyd yn clywed gan Kate Cassidy, cyfarwyddwraig cymunedau & cyfiawnder troseddol Llywodraeth Cymru; Lindsey Kearton, pennaeth polisi ac ymgyrchoedd Citizens Advice Cymru ac Andrew Dunning, darlithydd polisi cymdeithasol Prifysgol Abertawe.

Dywedodd Rhian Davies, prif weithredwraig Anabledd Cymru: “Mae thema’r gynhadledd yn amserol oherwydd mae pobl anabl ar draws y wlad yn wynebu toriadau mewn budd-daliadau a gwasanaethau, a hefyd ffynonellau cymorth traddodiadol sy’n herio’r penderfyniadau hyn, megis asiantaethau cyngor a chymorth cyfreithiol. Bydd rhaid i ni gydweithio wrth feddwl yn greadigol am sut allwn ddefnyddio’r adnoddau ac arbenigedd sydd ar gael er sicrhau bydd pobl anabl yn cadw’r hawliau ac adnoddau sy’n eu galluogi i fyw’n annibynnol yn y gymuned”. 

Rhannu |