Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Hydref 2013

Cyngor bwyta’n iach i ddisgyblion Gogledd Cymru

Mae cyngor ynglŷn â deiet iach a chytbwys ar y cwricwlwm i gannoedd o ddisgyblion a fydd yn mynychu cyfres o weithdai yng Ngogledd Cymru y mis hwn.

Darperir y cyngor bwyta’n iach gan Elwen Roberts, Swyddog Defnyddwyr Hybu Cig Cymru.

Ddydd Mawrth yr wythnos hon, mynychodd dros 200 o blant ysgolion cynradd ardal Llangollen nifer o weithdai ym mhafiliwn y dref.

“Roedd diddordeb aruthrol yn beth yn union yw deiet iach,” dywedodd Elwen. “Ein cyngor ni yw y gall bwyta deiet gytbwys ac amrywiol, gyda digon o ymarfer corff, arwain at ffordd iach o fyw.

“Mae cig coch, heb lawer o fraster, yn gallu chwarae rhan bwysig fel rhan o ddeiet gytbwys ac, i blant ifanc yn enwedig, mae’n ffynhonnell bwysig o brotein a haearn.

“Mae’r cyngor hwn yr un mor berthnasol i blant ag ydyw i oedolion sydd eisiau cadw i fod yn ffit ac yn egnïol.

“Yn ystod fy arddangosfeydd, roeddwn yn annog plant i gymryd rhan, er mwyn iddyn nhw gael rhywfaint o brofiad ymarferol o ddelio â’r bwyd y maen nhw’n ei fwyta – ac mae’n rhywbeth maen nhw’n ei fwynhau’n fawr!”

Wythnos nesaf, bydd Elwen yn mynychu Gwledd Blant Conwy dydd Iau a dydd Gwener (24 a 25 Hydref) lle bydd yn trafod buddiannau deiet gytbwys gyda channoedd mwy o blant lleol, ar drothwy gŵyl fwyd flynyddol y dref.

Mae HCC wedi cynhyrchu dau lyfr coginio ar gyfer plant ysgol gynradd. Teitl y llyfr yw Cool2Cook, ac mae dros 75,000 o gopïau o’r llyfrau wedi’u dosbarthu’n rhad ac am ddim i ddisgyblion ledled Cymru dros y pedair blynedd diwethaf.

Mae cyhoeddiad cyffelyb ar gyfer myfyrwyr prifysgol, First Degree Cooking, hefyd wedi cael ei gynhyrchu gan HCC. Mae’n cynnwys cyngor ynglŷn â bwyta’n iach, sut i goginio o fewn cyllideb dynn yn ogystal â chynghorion hylendid a storio. Hyd yn hyn, mae dros 20,000 o gopïau o’r llyfr hwn hefyd wedi cael eu dosbarthu’n rhad ac am ddim.

“Mae HCC yn credu ei bod hi’n bwysig bod oedolion a phlant, fel ei gilydd, yn derbyn y ffeithiau am yr hyn y mae deiet iach yn ei olygu, a buddiannau cadarnhaol y maethynnau mewn cig coch,” meddai Elwen. “Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod yn siarad yn uniongyrchol â defnyddwyr, yn hen ac yn ifanc, yn ystod digwyddiadau fel hyn.”

Rhannu |