Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Hydref 2013

Cyflawni blaenoriaethau yn y Gogledd

Cyn ymweliad â’r Gogledd, dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt mai hybu twf economaidd a chreu swyddi, ynghyd â threchu tlodi, yw’r blaenoriaethau sy’n cael eu cyflawni yn yr ardal.

Bydd y Gweinidog yn mynd ar gyfres o ymweliadau ddydd Iau, gan gynnwys galw yn Ysbyty Glan Clwyd a fydd yn elwa ar ddyraniad o £10m pellach dros ddwy flynedd i barhau i ailddatblygu ac ailwampio er mwyn gwella ansawdd gofal yr ysbyty. Bydd hi hefyd yn ymweld â’r Ganolfan Rheoli Traffig yng Nghonwy i glywed sut bydd £17m ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth er mwyn sbarduno gwaith hanfodol i wella twnelau’r A55.

Cyn ei hymweliad, dywedodd y Gweinidog: “Mae’r Gyllideb ddrafft y cyhoeddais yr wythnos diwethaf yn deg mewn cyfnod garw.  Rwy’n glir ynghylch y blaenoriaethau i Gymru, sy’n cynnwys amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd ac ysgolion, hybu twf economaidd a chreu swyddi a threchu tlodi. Mae buddsoddi mewn trafnidiaeth a’r Gwasanaeth Iechyd yn flaenoriaethau yn y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i sicrhau bod ein seilwaith a’n gwasanaethau cyhoeddus yn addas at y dyfodol.

“Bydd y pecyn buddsoddi cyfalaf o £617.5m y cyhoeddais yr wythnos diwethaf, gan gynnwys y cyllid ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd a’r A55, yn cyfrannu at hybu’n heconomi.  Rwy’n benderfynol o ddefnyddio pob punt bosibl i fuddsoddi mewn seilwaith a hybu twf economaidd yn yr hirdymor.”

Bydd y Gweinidog hefyd yn cwrdd â phrentisiaid yng Nghanolfan Ynni Coleg Menai yn Llangefni ac yn ymweld â chynllun Dechrau’n Deg yn Llandudno sydd wedi derbyn cyllid cyfalaf. Roedd y gyllideb yr wythnos diwethaf yn cynnwys ymestyn yr ymrwymiad i fuddsoddi £20m i gefnogi prentisiaethau yng Nghymru hyd at 2015-16, a chefnogaeth ychwanegol o £11m ar gyfer Dechrau’n Deg drwy gyfuniad o gyllid refeniw a chyfalaf. 

Dywedodd y Gweinidog: “Mae Dechrau’n Deg yn rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant yn ein cymunedau tlotaf. Mae’n helpu i dorri’r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol. Mae rhoi’r sgiliau cywir i bobl ifanc ar gyfer y gweithle hefyd yn bwysicach nag erioed, ac mae’n briodol cefnogi prentisiaethau sy’n caniatáu i bobl ifanc ennill profiad a chymwysterau y mae eu hangen ar gyflogwyr.

“Ers 2010, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud toriadau digynsail i gyllideb Cymru. Allwn ni ddim gwarchod pob gwasanaethau rhag y sgil-effeithiau, ond gallwn ni fuddsoddi yn ein blaenoriaethau a gwneud gwahaniaeth mewn cyfnod anodd.”

Roedd y cyhoeddiadau eraill yr wythnos diwethaf hefyd yn cynnwys buddsoddiad yng nghynllun rhannu ecwiti Help to Buy Cymru, a fydd yn buddsoddi mwy na £170m ledled Cymru i helpu pobl sy’n ceisio prynu cartref ac yn rhoi hwb mawr i’r diwydiant tai. Hefyd cyhoeddwyd £70m ychwanegol ar gyfer cynllun Arbed i wneud cartrefi Cymru’n rhatach ar ynni, gan ganolbwyntio ar y rheini sydd mewn tlodi tanwydd. 

Rhannu |