Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Hydref 2013

A yw Abertawe ar y ffordd i gael hwb gwerth miliynau o bunnoedd?

Mae'n bosib y bydd miliynau o bunnoedd ar y ffordd i hybu busnesau, swyddi a byw yng nghanol dinas Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe, ar ran Partneriaeth Adfywio Economaidd Abertawe, yn gwneud cais am fuddsoddiad a allai fod yn werth £15 miliwn gan fenter adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru a fydd hefyd yn darparu cyfleoedd am gyllid ychwanegol gan Ewrop a ffynonellau eraill gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r bartneriaeth yn un yn unig o'r 11 ar draws y wlad a wahoddwyd i gynnig cais cam dau wedi i gais cam un gael ei dderbyn yn ffafriol.

Cynigiodd cais cam un raglen fuddsoddi trawsffurfiannol wedi'i thargedu'n benodol at galon fasnachol canol y ddinas ac Ardal Adnewyddu Tai Sandfields arfaethedig. Gallai'r Ardal Adnewyddu Tai arfaethedig yn Sandfields weld nifer o dai yn cael eu moderneiddio yn y dyfodol agos.

Os yw'r cais yn llwyddiannus, disgwylir y bydd y buddsoddiad yn helpu i greu oddeutu 4,000 o swyddi gan arwain at 73,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr masnachol newydd. Gallai hefyd arwain at foderneiddio dros 1,900 o dai ac adeiladu dros 600 o dai newydd.

Cynhaliwyd digwyddiad yn Nh?r Meridian ddydd Mawrth (15 Hydref) lle gwahoddwyd cynrychiolwyr o gymunedau busnes ac academaidd Abertawe yn ogystal â sectorau cyhoeddus a gwirfoddol y ddinas i drafod y cais a chytuno ar ei gynnwys.

Meddai'r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, "Bydd y rhaglen adfywio uchelgeisiol hon y gellir ei chyflawni yn atgyfnerthu rôl Abertawe fel ysgogwr y ddinas-ranbarth, creu swyddi, darparu cartrefi newydd, mynd i'r afael â llety gwael ac adeiladau gwag, a darparu hyfforddiant sylweddol a chyfleoedd cyflogaeth wedi'u targedu at ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae'n galonogol iawn y derbyniwyd ein cais cam un mor ffafriol ac mae'n golygu ein bod mewn sefyllfa dda i allu derbyn buddsoddiad sylweddol a fyddai'n cael ei ategu'n sylweddol gan y sector preifat.

"Os ydym yn llwyddo i sicrhau'r buddsoddiad, bydd yn arwain at amrywiaeth eang o brosiectau adfywio dros saith mlynedd a fyddai'n gwella nid yn unig canol y ddinas ond ardaloedd preswyl ar y cyrion megis Sandfields a Dyfaty hefyd. Rhan allweddol o'r cynllun fyddai cydweithio â sefydliadau megis Cymunedau'n Gyntaf yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig i sicrhau fod cynifer o bobl yno â phosib yn elwa o'r swyddi, gwell cyfleoedd hyfforddi a'r recriwtio a dargedir a allai fod ar y gweill.

"Rydym nawr yn cydweithio â'n partneriaid ar gam dau y cais a gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Tachwedd.

Mae Partneriaeth Adfywio Economaidd Abertawe yn cynnwys cynrychiolaeth uwch o'r sectorau preifat, cyhoeddus, gwirfoddol ac addysg. 

Rhannu |