Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Hydref 2013

Y Prif Weinigog 'ymhell ar ei hôl hi' o gymharu ag uchelgais Plaid dros Gymru

Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi dweud bod yn rhaid i Brif Weinidog Cymru ddefnyddio cyfarfod Cyd-bwyllgor Gweinidogol yn Llundain fory (dydd Mercher) i wneud cynnydd o ddifri ar sicrhau cyllid tecach i Gymru.

Dywedodd Mr Edwards fod y Prif Weinidog ymhell y tu ôl i Blaid Cymru o ran cyflwyno polisiau ystyrlon ac uchelgeisiol, ac y bydd yn siomi pobl Cymru oni bai ei fod yn gadael y cyfarfod fory gydag atebion cadarn gan Lywodraeth y DU ar amrywiaeth o faterion.

Ychwanegodd bod diwygio fformiwla Barnett, cael dyddiad penodol ar gyfer pryd y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb i argymhellion y Comisiwn Silk ar drosglwyddo pwerau, a sicrhau cyllid teg gan HS2 yn rhai o'r pynciau y dylai'r Prif Weinidog eu codi pan fydd y Pwyllgor yn cyfarfod.

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Jonathan Edwards AS: "Dylai'r Prif Weinidog ddefnyddio'r cyfarfod hwn i wneud cynnydd ystyrlon ar sicrhau cyllid teg i Gymru. Y llynedd , collodd Cymru £540m oherwydd y ffordd annheg y mae'r grant bloc Cymreig yn cael ei gyfrifo .

"Mae methiant Swyddfa Cymru i roi argymhellion y Comisiwn Silk ar waith yn atal ein hadferiad economaidd, a nid yw'r Prif Weinidog wedi gwneud hanner digon i ddal Llywodraeth y DU i gyfrif.

"Dylai fod yn mynnu fod argymhellion y Comisiwn yn cael eu rhoi ar waith heb oedi a rhoi'r gorau i ddewis a dethol er mwyn gwarchod buddiannau cul y Blaid Lafur.

“Gallai ei arweinyddiaeth ddi-fflach arwain at bobl yn colli ffydd yn ein sefydliad gwleidyddol datganoledig.

"Os bydd y Prif Weinidog yn gadael y cyfarfod heb warant o ddyddiad penodol ar gyfer pryd y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei ymateb i'r Comisiwn Silk, bydd wedi siomi pobl Cymru.

"Rhaid iddo hefyd wneud cynnydd o ran argyhoeddi ei gydweithwyr yn Llundain o’r achos dros sicrhau ol-wariant Barnett o rhwng £3-4 biliwn i Gymru yn sgil y biliynau fydd yn cael eu gwario ar brosiect HS2.

“Plaid Cymru oedd y blaid gyntaf i alw am gyfran deg o’r arian hwn a allai arwain at chwyldro trafnidiaeth yng Nghymru.

"Mae'n rhaid i'r Prif Weinidog ddal i fyny gydag uchelgais Plaid Cymru dros ein gwlad a gweithredu ar faterion ddylai fod wedi cael eu sortio amser maith yn ôl. Nid yw ‘rhy ychydig yn rhy hwyr’ yn ffordd ddigon da o lywodraethu cenedl ac mae pobl Cymru’n haeddu llawer gwell."

Rhannu |