Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Hydref 2013

Skype yn Gymraeg - croeso cynnes ar ddiwrnod Shwmae Su’mae

Bydd y rhaglen sgwrsio ar-lein Skype ar gael yn Gymraeg o heddiw ymlaen, diolch i waith cyfieithu gwirfoddol gan garedigion yr iaith.

Daw’r newyddion ar ddiwrnod Shwmae Su’mae, diwrnod sy’n annog unigolion i ddefnyddio a dathlu’r Gymraeg sydd gyda nhw bob dydd. Trefnir y diwrnod gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg, grŵp ymbarél o 25 mudiad sy’n hybu a hyrwyddo’r iaith ar lawr gwlad bob dydd.

Meddai Is-gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith, Aled Powell, a fu’n helpu i gyfieithu rhyngwyneb y rhaglen Skype: “Hoffwn ddiolch i’r holl bobl sydd wedi arwain ar y gwaith yma.

"Mae sicrhau bod gan y Gymraeg bresenoldeb cryf ar y we yn hollbwysig i’w ffyniant dros y blynyddoedd i ddod.

"Gan nad ydyn ni’n gallu dibynnu ar Lywodraeth Carwyn Jones i weithredu ar fyrder ar ein rhan, mae’n rhaid i ni fel unigolion gymryd materion i’n dwylo ein hunain.

"Mae’r ffaith bod rhaglenni fel Facebook a Skype bellach ar gael yn Gymraeg yn dangos potensial grymuso pobl. Mae ’na obaith ym mrwdfrydedd pobl y bydd pawb, rywbryd yn y dyfodol, yn byw eu bywydau yn Gymraeg.”

Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Fel mudiad sy’n aelod o Fudiadau Dathlu’r Gymraeg, mae’n bleser gennym gefnogi Diwrnod Shwmae Su’mae.  Byddwn ni’n annog pobl ar hyd a lled Cymru i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg, nid yn unig heddiw, ond drwy’r flwyddyn.”

Gellir lawrlwytho Skype yn Gymraeg trwy fynd at: http://haciaith.com/2013/10/14/dywedwch-shwmae-sumae-drwy-skype-yn-gymraeg/

Rhannu |