Mwy o Newyddion
Bil Cymreig newydd ar y gweill ar bwnc addysg ariannol
Gallai’r Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu bil fydd yn ceisio gwelliant dramatig i addysg ariannol yng Nghymru a rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol fynd i’r afael ag eithrio ariannol y dydd Mercher hwn (Hydref 16).
Bydd Bethan Jenkins AC, sydd wedi cyfarfod llawer o’i hetholwyr y tarfwyd ar eu bywydau gan fenthyciadau gyda chyfraddau llog enbyd o uchel, yn ogystal â sefydliadau sydd am eu hatal rhag lledaenu, yn ceisio argyhoeddi ei chydweithwyr yn y Cynulliad fod angen deddfwriaeth i helpu pobl fel nad ydynt yn mynd yn ddwfn i ddyled am gyfnodau maith.
Os caiff AC Gorllewin De Cymru hawl gan y Cynulliad i gyflwyno ei bil, mae’n gobeithio y bydd ei chyd-Aelodau Cynulliad ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ynghyd â mudiadau â diddordeb o’r tu allan i’r Cynulliad, yn ychwanegu eu syniadau hwy i’r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol, gan gryfhau a gwella’r hyn fydd yn ei gynnig.
Cefnogwyd y Bil gan Martin Lewis, a greodd MoneySavingExpert.com, sydd yn adnabyddus fel hyrwyddwr addysg ariannol.
Meddai: “Rwyf i wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i wneud yn siŵr ein bod yn addysgu ein plant i fyw yn yr economi defnyddwyr gystadleuol hon - felly mae’n newyddion gwych fod Bil yn awr ar y gweill sydd â’r bwriad o adeiladu ar yr addysg ariannol orfodol sydd eisoes ar gael yng Nghymru.
"Mae’n rhaid i ni ofalu bod ein plant yn meddu ar y gallu i drin peryglon megis benthyciadau diwrnod cyflog, temtasiynau fel gwario ar chwiw, a chynllunio dyfodol sefydlog ar gyfer morgeisi ac ie, rhyw ddydd, hyd yn oed bensiynau.
“Yr oedd Cymru eisoes gam o flaen Lloegr o ran cyflwyno addysg ariannol orfodol. Fodd bynnag, mae’r Bil hwn yn dangos nad yw llunwyr polisi yng Nghymru yn barod i orffwys ar eu rhwyfau, a’u bod eisiau ei wthio ymhellach ymlaen. Rwyf wrth fy modd â hyn.”
Meddai Bethan: “Yng Nghymru, mae rheidrwydd ar ysgolion eisoes i ddarparu addysg ariannol. Er bod y cyrsiau hyn wedi eu cynllunio’n dda a’u darparu yn gydwybodol, fy mhryder i – o siarad â mudiadau a phobl mewn dyled – yw a allant gadw’n gyfoes â chyflymder cynhyrchion ariannol newydd.
“Er enghraifft, gallech ddysgu pobl yn y chweched dosbarth yn awr am y pethau diweddaraf y mae banciau’n gynnig. Fodd bynnag, pan ddaw’n fater o wneud dewisiadau ymhen cwpl o flynyddoedd, gallant gael eu hwynebu ag amrywiaeth o gynhyrchion newydd nad ydynt yn eu deall.
“I wrthweithio hynny, rwy’n credu fod angen i ni wneud dau beth. Yn gyntaf, rhaid i ni wreiddio addysg ariannol yn ddyfnach o lawer yn y cwricwlwm, fel y daw’n ail natur i ddisgyblion a myfyrwyr.
"Yn ogystal â defnyddio amser mewn gwersi mathemateg a rhifedd, gellid ei gynnwys mewn pynciau fel Saesneg, a byddai yno i’w helpu i ddeall yn well sut y mae cyllid yn bwnc sydd yn nodwedd o fywyd cyfoes fel bod angen iddynt ei adnabod pan welant ef.
“Yn ail, mae llawer o waith da’n cael ei wneud gan awdurdodau lleol – gyda chefnogaeth y trydydd sector ac elusennau – i helpu pobl sydd mewn dyled yn awr. Ond maent yn dweud wrthyf am eu rhwystredigaeth mai dim ond hyn-a-hyn y gallant wneud i wrthweithio’r benthycwyr llog-uchel a phobl sy’n ffonio ac yn plagio eu tenantiaid, a buasent yn croesawu mwy o bwerau i gymryd camau i atal hyn rhag digwydd.
“Pan fydd gennyf elusennau rheoli dyled yn dweud wrthyf fod tri o bob pump o bobl sy’n mynd i’w gweld gyda benthyciad na allant fforddio ei had-dalu yn methu hyd yn oed ddarllen eu mantolen fanc eu hunain, rwy’n credu y dylem ni fel Cynulliad fod yn gwneud llawer mwy i roi terfyn ar hyn.
Rwy’n gweld y bil hwn fel ffordd o gychwyn dadl ehangach am reoli dyled yn ein cymdeithas, ac yr wyf yn credu y bydd deddfwriaeth fydd yn helpu i ddiweddu’r problemau yn well o gael cyfraniadau gan bawb.”
Derbyniodd cynigion y Bil gryn gefnogaeth gan fudiadau’r trydydd sector ac elusennau, gan gynnwys Cartrefi Cymunedol Cymru.
Meddai Clare James, Swyddog Polisi Gwasanaethau Tai Cartrefi Cymunedol Cymru: “Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn cefnogi’r cynigion am Fil AA. Trwy ein hymgyrch Mae Eich Budd-daliadau yn Newid, fe wyddom pa mor bwysig fydd galluedd ariannol o ran helpu pobl i ddeall Credyd Cynhwysol, gan gynnwys rheoli eu taliadau rhent a chyllidebau gyda phatrwm talu gwahanol.”
Llun: Martin Lewis