Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Hydref 2013

Cerys yn cefnogi Diwrnod Shwmae Sumae!

Ar ddydd Mawrth, 15 Hydref, cynhelir nifer o weithgareddau ar draws y wlad i ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae! Nôd yr ymgyrch yw:

? gwneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus,

? dangos bod yr iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru, beth bynnag yw eu medrusedd

? a sicrhau defnydd o'r Gymraeg drwy’r flwyddyn.

Bu'r ymgyrch yn lwcus iawn i dderbyn cefnogaeth nifer o enwau amlwg yng Nghymru gan gynnwys y gantores a'r ddarlledwraig uchel ei pharch, Cerys Matthews.

Dywedodd Cerys: "Rwy'n falch o gefnogi Diwrnod Shwmae Sumae, peidiwch a becso os yw'ch Cymraeg chi bach yn rhydlyd. Does dim ots, give it a go!

"Mae'n grêt gweld pobl yn tynnu at ei gilydd ar Ddiwrnod Shwmae Sumae i ddathlu'r Gymraeg, ac mae Sir Benfro wedi gwneud ymdrech ffantastig. Fel un sydd a gwreiddiau dwfn yn y sir rwy'n gwybod bod y gymuned yn gweithio'n galed dros y Gymraeg. Cefnogwch y diwrnod! Siaradwch yr iaith a gwnewch eich gorau ble bynnag ydych chi!"

Ar safleoedd Coleg Ceredigion yn Aberystwyth ac Aberteifi bydd y b?t bocsiwr Mr Phormula aka Ed Holden a Bardd Plant Cymru yn cynnal gweithdai rapio a bîtbocs gyda myfywyr y coleg. Byddant yn codi arian i elusen Age Cymru Ceredigion.

Bydd 'na foreau coffi lu ar hyd a lled Cymru gan gynwys Caerdydd, Aberystwyth, a Chanolfan Saith Seren Wrecsam. Mae Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr wedi trefnu gweithgareddau yn ysgolion Dyffryn Tâf, Hendygwyn-ar-Dâf a Queen Elisabeth High, Caerfyrddin. Cymaint yw brwdfrydedd Theatr Felinfach maent wedi trefnu dau ddiwrnod o ddigwyddiadau ar y dydd Mawrth a'r Sadwrn canlynol ble byddant yn lawnsio ei cwmni theatr i ddysgwyr.

Yn ogystal â hyn mae Aelodau'r Cynulliad, Simon Thomas, Suzy Davies, Aled Roberts a Keith Davies wedi gosod datganiad barn ar lawr y Senedd yn cefnogi’r Diwrnod..

Dywedodd Morgan Jones, un o gyflwynwyr prysuraf a mwyaf poblogaidd S4C: “Mae'n anrhydedd cael bod yn un o Bencampwyr Diwrnod Shwmae Sumae! oherwydd rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â hyrwyddo'r Gymraeg ac annog pobl i'w defnyddio ar bob cyfle bosib.

"Yn bersonol, y Gymraeg sy'n fy niffinio i fel person gan mai ein mamiaith sy'n ein gwneud yn wahanol i bawb arall yn y byd. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ein gwneud yn bobl unigryw.

"Y Gymraeg yw'r ddolen gyswllt rhyngof i a fy ngwlad - ei hanes, ei diwylliant, ei thraddodiadau a'i thir. Mae'n rhan annatod o'n hanes ac fe wnai fy ngora i'w hamddiffyn a'i gwarchod a sicrhau y bydd yn rhan o ddyfodol ein plant hefyd am genedlaethau i ddod. Y Gymraeg yw ein trysor pennaf."

 

Rhannu |