Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Hydref 2013

Cyhoeddi Canllawiau ar Gynllunio a’r Gymraeg

Ddoe, cyhoeddodd Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio, ganllawiau wedi’u diweddaru ar sut y dylid ystyried y Gymraeg fel rhan o’r system gynllunio.  

Mae’r Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 diwygiedig yn adlewyrchu trafodaethau a gafwyd yn y Gynhadledd Fawr. Hon oedd y drafodaeth genedlaethol ar y Gymraeg a gafodd ei hysgogi gan y Prif Weinidog yn sgil cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad yn yr haf, a oedd yn dangos cwymp yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg.  

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: ”Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo ac ysgogi’r defnydd o’r Gymraeg. 

“Mae cyhoeddi’r TAN 20 diwygiedig hwn yn cyflawni yn erbyn ein hymrwymiad yn Iaith fyw: iaith byw, Strategaeth y Gymraeg ar gyfer 2012-17, ac rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth a’r arweiniad a gafwyd gan y Comisiynydd Iaith wrth ei baratoi."

Ychwanegodd Carl Sargeant: “Rydyn ni’n cydnabod y gall y system gynllunio helpu i greu’r amodau cymdeithasol ac economaidd sy’n rhoi cyfle i bobl siarad Cymraeg. Mae’r TAN diwygiedig hwn yn rhoi eglurder i awdurdodau lleol ynghylch sut y dylai ystyriaethau yn gysylltiedig â’r Gymraeg gael eu bwydo i’r gwaith o baratoi eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

“Mae’r canllawiau yn golygu bod rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sydd wedi nodi bod yr iaith yn bwysig yn lleol ystyried y Gymraeg fel rhan o’u Cynlluniau Datblygu Lleol yn y dyfodol. Bydd rhaid iddyn nhw hefyd ymgynghori â’r Comisiynydd Iaith wrth baratoi ac adolygu’r Cynllun.  

“Fel hyn, bydd awdurdodau cynllunio yn gallu defnyddio eu Cynlluniau Datblygu Lleol i liniaru’r effaith y gallai datblygiadau newydd ei chael ar y Gymraeg.” 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Dai a’r Gymraeg: “Rwy’n croesawu’r cyfarwyddyd a geir yn y canllawiau hyn a’r cyfle i Awdurdodau Cynllunio roi ystyriaeth ddyledus i’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’r angen i ystyried sut effaith mae datblygiadau’n ei chael ar y Gymraeg, o safbwynt economaidd-gymdeithasol, yn cael ei gydnabod.

"Rhaid i awdurdodau nawr sefydlu polisïau priodol i fynd i’r afael â hyn. Mae’n uchelgais gan Lywodraeth Cymru i greu cymunedau Cymraeg eu hiaith a chynnal y cymunedau hynny. Bydd y canllaw hwn yn helpu i wireddu’r uchelgais hwnnw.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Neil Rogers, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar faterion cynllunio: “Bydd awdurdodau cynllunio lleol ar draws Cymru’n gwerthfawrogi’r canllawiau hyn. Mae’n dangos sut y gall y system gynllunio chwarae ei rhan i greu’r amodau cymdeithasol ac economaidd priodol i gynorthwyo cymunedau Cymraeg eu hiaith i ffynnu.”

Llun: Carl Sargeant

Rhannu |