Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Hydref 2013

Llongyfarch dysgwyr y Gymraeg ar eu llwyddiant

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, a'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis wedi cwrdd yn y Senedd â'r unigolion a gyrhaeddodd y rhestr fer yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, i'w llongyfarch ar eu llwyddiant.

Cyhoeddwyd Martyn Croydon, sy'n dod o Kidderminster yn wreiddiol, fel enillydd y gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych eleni. Syrthiodd Martyn mewn cariad â Llŷn tra yr oedd ar ei wyliau yno gyda'i deulu ac o ganlyniad penderfynodd ei fod am ddod i weithio a byw yng Nghymru.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg drwy ddefnyddio llyfrau ac adnoddau ar-lein, ond ar ôl symud i Gymru, cofrestrodd i fynd i ddosbarthiadau Cymraeg ym Mhwllheli. Mae Martyn, sydd bellach wedi ymgartrefu yn Llannor, wedi pasio ei arholiad Safon Uwch Cymraeg, ac mae wedi bod yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion er mis Medi 2012.

Kathleen Isaac, Craig ab Iago a Darran Lloyd oedd yr unigolion eraill i gyrraedd y rhestr fer eleni.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae siarad Cymraeg yn sgìl arbennig sy'n gallu cynnig llawer o fanteision addysgol a diwylliannol a gall fod o gymorth wrth chwilio am waith. Fel y gwelodd y dysgwyr hyn, gall dysgu Cymraeg agor drysau i gyfleoedd a phrofiadau newydd a hoffwn eu llongyfarch ar eu llwyddiant.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis: "Rwy'n hapus dros ben bod holl waith caled ac ymrwymiad y pedwar ar y rhestr fer i ddysgu'r iaith wedi'i gydnabod yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni. Mae'r dysgwyr hyn yn defnyddio'u Cymraeg bob dydd, gyda'u teuluoedd a'u cymunedau ac maen nhw wir yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr eraill.”

Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yw un o uchafbwyntiau'r calendr Cymraeg i Oedolion ac un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod bellach. Mae'n cydnabod llwyddiant oedolion sydd wedi dysgu'r iaith i lefel uchel o ruglder ac mae'n gyfle i ysbrydoli eraill i ddysgu'r iaith.

Mae £50,000 o grant blynyddol Llywodraeth Cymru i'r Eisteddfod Genedlaethol wedi'i neilltuo i gyllido swydd Swyddog Datblygu'r Gymraeg. Amcan y cyllid yw cynnig ystod o weithgareddau i ddysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn hyrwyddo dysgu'r Gymraeg, a chodi nifer y dysgwyr a phobl ddi-Gymraeg sy'n mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn.

Kathleen Isaac
O Abertawe y daw Kathleen Isaac yn wreiddiol, a phum mlynedd yn ôl, symudodd o'r ddinas i Crosshands a sylwi cynifer o siaradwyr Cymraeg oedd yn byw yn y gymuned. Penderfynodd ddysgu Cymraeg ac roedd yn awyddus i wneud yn siŵr y byddai ei phlant yn cael eu magu yn y Gymraeg. Mae Kathleen yn astudio cwrs Cymraeg lefel canolradd unwaith yr wythnos ac mae'n mynd i ddosbarthiadau ‘siawns am sgwrs’. Mae pawb yn ei bywyd yn gwybod ei bod yn dysgu'r Gymraeg, ac mae'n dysgu geiriau newydd bob dydd i ymarfer gyda'i theulu a'i ffrindiau. Mae'n dweud bod dysgu'r Gymraeg wedi agor bywyd arall, ac mae wrth ei bodd yn byw mewn cymuned Gymraeg.

Craig ab Iago
Er bod Craig yn dod o deulu sy'n siarad Cymraeg, cafodd ei eni a'i fagu yng nghanolfannau'r RAF ledled Lloegr ac Ewrop. Ni chafodd ei fagu yn y Gymraeg a phan ddychwelodd i Gymru ar gyfer angladd teuluol, cafodd ei atgoffa nad oedd yn siarad yr un iaith â llawer o'i deulu estynedig. Ysgogodd hyn ef i ddysgu Cymraeg ac fe gofrestrodd ar gyfer cwrs dwys WLPAN yn Llanbedr Pont Steffan cyn dychwelyd i'r brifysgol i gwblhau ei radd. Ar ôl graddio, cafodd swydd fel ffisiotherapydd yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a symudodd i Rosgadfan. Ymgartrefodd yn Llanllyfni chwe mlynedd yn ôl.

Darran Lloyd
Daw Darran Lloyd o Aberdâr yng nghymoedd y De ac mae wedi bod yn dysgu Cymraeg am bron i bedair blynedd. Mae'n gweithio fel hyfforddwr i Heddlu De Cymru, ac mae'n meddwl bod dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd. Erbyn hyn mae'n addysgu cwrs Cymraeg lefel mynediad yr Heddlu, ac mae hyn yn golygu ei fod yn gallu rhannu'r iaith ag eraill a'u helpu i ddysgu'r iaith yn y gweithle. Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae Darran wedi dysgu Cymraeg yn dda iawn, ac mae'n dilyn y cwrs Cymraeg lefel uwch. Ddwy flynedd yn ôl, enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn y gweithle, ac fe ysbrydolodd hyn ef i barhau gyda'i astudiaethau.

Llun: Martyn Croydon

Rhannu |