Mwy o Newyddion
CAIS a Stafell Fyw Caerdydd yn cyfuno
Yn dilyn cyfarfod o’i ymddiriedolwyr, mae Stafell Fyw Caerdydd, y ganolfan adferiad gymunedol ar gyfer Caerdydd a De Cymru, wedi cytuno i gyfuno gyda CAIS y mudiad cyffuriau ac adferiad yng Ngogledd Cymru a Phowys i greu un o ddarparwyr therapi mwyaf ar gyfer dibyniaeth yng Nghymru.
Bydd Stafell Fyw Caerdydd, a gafodd ei sefydlu yn 2011, yn dod yn rhan o’r elusen CAIS a bydd yn parhau yn ei leoliad bresennol yng Nghaerdydd o dan arweiniad ei brif weithredwr, Wynford Ellis Owen.
Mae CAIS yn elusen gofrestredig ac yn arwain yn y maes o ddarparu gwasanaethau cymorth personol yng Nghymru. Mae’n helpu pobl sy’n cael problemau gyda dibyniaeth, iechyd meddwl, datblygiad personol a gwaith – yn ogystal â chynnig cymorth a gwybodaeth i’w teuluoedd a’u ffrindiau.
Mae ei ystod eang o wasanaethau yn cynnwys triniaethau preswyl, cynghori, mentora gan gyfoedion, cefnogi pobl yn eu cartrefi, helpu pobl ddychwelyd i fyd gwaith neu addysg,gwaith grŵp, ynghyd â mathau eraill o annogaeth cefnogol personol.
Mae Stafell FywCaerdydd yn trin â phob math o ddibyniaeth ac yn croesawu unrhyw un sydd angen cymorth naill ai i gymryd y cam cyntaf tuag at adferiad neu sydd eisiau help i gynnal eu hadferiad. Mae Stafell Fyw Caerdydd hefyd yn croesawu ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth i deulu, partneriaid a ffrindiau pobl sy’n dioddef o ddibyniaeth.
Dywedodd Clive Wolfendale, Prif Weithredwr CAIS: “Rydyn yn hynod o falch i gyd-weithio gyda Stafell Fyw Caerdydd ar y cytundeb cyfuno hwn. Rydyn yn rhannu gweledigaeth ac ethos tebyg iawn. Yn fwy pwysig fyth, rwy’n credu y gallwn, gyda’n gilydd, ddod ag egni a chreadigrwydd gwirioneddol i achos adferiad yng Nghymru.”
Ychwanegodd Wynford Ellis Owen: “ Mae’n ddiwrnod cyffrous i Stafell Fyw Caerdydd. Mae’n rhoi sylfaen gref i ni i symud ymlaen i ddarparu ein harddull torri tir newydd ni o drin adferiad.
"Hefyd drwy gyfuno gyda CAIS gallwn gydweithio, gyda’n gorchwylion ein hunain, i fynd i’r afael â’r broblem gynhyddol o ddibyniaeth am y tro cyntaf ar draws Cymru yn ei chyfanrwydd.
“Mae’r strwythur newydd yn ein galluogi i adeiladu ar ein llwyddiannau dros y blynyddoedd diwethaf ac yn helpu hyd yn oed mwy o bobl i adfer o ddibyniaeth ac ail-adeiladu bywydau normal a chynhyrchiol, yn y gred fod pobl yn gallu ac yn llwyddo i newid.”
Llun: Wynford Ellis Owen