Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Hydref 2013

Diwydiant ynni’r môr Cymru yn croesawu cyhoeddiad Ystad y Goron

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi croesawu cyhoeddiad gan Ystad y Goron a fydd yn cynorthwyo Cymru i gyflawni ei huchelgais o arwain ym maes ynni adnewyddadwy’r môr.

Mae Ystad y Goron wedi nodi ardaloedd o ddŵr oddi ar arfordir y DU sy’n addas ar gyfer profi ac arddangos prosiectau sy’n defnyddio ynni’r tonnau ac ynni’r llanw.

Mae’r broses ymgeisio bellach ar agor sy’n golygu y gall prosiectau a phobl â diddordeb mewn rheoli’r parthau ddatgan eu diddordeb. Cafodd y parthau hyn eu dewis ar sail addasrwydd eu nodweddion ffisegol. Mae’r gwaith o brofi ac arddangos prosiectau ynni’r llanw ac ynni’r tonnau yn gam allweddol yn y broses o greu mentrau masnachol ym maes ynni adnewyddadwy.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: “Mae’r dyfroedd byrlymus oddi ar arfordir Cymru yn addas iawn ar gyfer prosiectau ynni’r llanw ac ynni’r tonnau.

"Yn ogystal, golyga ein diwydiant, ein porthladdoedd a’n seilwaith grid presennol fod Cymru’n lleoliad delfrydol ar gyfer prosiectau o’r fath.

"Mae datblygwyr eisoes yn dangos mwy a mwy o ddiddordeb mewn lleoli dyfeisiau ynni adnewyddadwy’r môr yn y dyfroedd hyn.  

 “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i elwa i’r eithaf ar ynni’r môr. Credwn y gallai Cymru ennill ei phlwyf fel gwlad sy’n arwain y farchnad ynni morol drwy gynhyrchu llawer iawn o’r ynni a hefyd drwy allforio gwybodaeth, technolegau a gwasanaethau ym maes ynni’r môr, sydd yr un mor bwysig.

"Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad hwn yn fawr ac mae’n sicr yn golygu ein bod gam yn nes at ein huchelgais o greu diwydiant ynni’r môr sy’n ffynnu yng Nghymru.”

Gan mai Ystad y Goron sy’n berchen ar wely’r môr o amgylch arfordir y DU, mae’n rhaid i ddatblygwyr sy’n dymuno lleoli dyfeisiau ynni adnewyddadwy’r môr yn yr ardal dderbyn trwydded ganddi.

Hyd yma nid yw Ystad y Goron ond wedi rhoi trwyddedau i brosiectau unigol ond golyga’r cyhoeddiad hwn y gall datblygwyr bellach gyflwyno cais i reoli sawl prosiect o fewn y ‘parthau’ newydd.

Rhannu |