Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Hydref 2013

Dyfodol newydd i ganol dinas Abertawe

Mae adolygiad mawr ar y gweill i ddod o hyd i ffordd newydd a chyffrous o ddatblygu canol dinas Abertawe drwy wneud y gorau o'i apêl a'i ddiwylliant unigryw.

Bydd cynhadledd ddeuddydd sy'n rhan o'r adolygiad yn denu arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol i fynd i'r afael â materion megis siopa ar-lein ac effaith hynny ar y stryd fawr.

Yn ogystal â'r gynhadledd ddechrau'r flwyddyn nesaf, cynhelir cystadleuaeth i benseiri a myfyrwyr i ddylunio canol dinas modern a chroesawgar sy'n cyfuno datblygiadau manwerthu, preswyl a swyddfeydd.

Mae'r adolygiad, a arweinir gan Gyngor Abertawe, yn edrych eto ar gynlluniau blaenorol ar gyfer canol y ddinas a'r hyn y gellir ei wneud yn y dyfodol i adfywio canol y ddinas, creu swyddi a hybu ffyniant.

O ganlyniad, ni fydd y cyngor a'r datblygwyr eiddo, Hammerson, yn ymestyn eu cytundeb cydweithredu. Cyn bo hir, bydd y cyngor yn dechrau chwilio am bartner datblygu arall.

Bydd gan Hammerson, sy'n berchen ar safle hamdden a manwerthu Parc Tawe, bresenoldeb cryf yn Abertawe o hyd, a bydd yn parhau i weithio gyda'r cyngor i ddatblygu Parc Tawe. Bydd cais cynllunio sydd i'w gyflwyno ar gyfer y safle yn cynnwys tenant angor newydd, bwytai newydd, diweddariad amgylcheddol a chysylltiadau gwell i gerddwyr â chanol y ddinas.

Mae trafodaethau hefyd ar y gweill rhwng y cyngor a sawl enw blaenllaw ar y stryd fawr i fod yn denant angor safleoedd Canolfan Siopa Dewi Sant gynt a Thŷ Oldway, sydd bellach yn eiddo i'r cyngor ac wedi'u cymeradwyo ar gyfer ailddatblygu.

Meddai'r Cyng. Nick Bradley, Aelod y Cabinet dros Adfywio, "Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Hammerson ers amser, ond mae'n amlwg nawr bod angen newid ei fodel ar gyfer ailddatblygu canol y ddinas oherwydd yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ac nid yw'n cydweddu â'n huchelgais bellach.

"Nid yw'r model manwerthu traddodiadol yn gweithio, felly mae angen i ni ddod o hyd i ateb gwahanol, a dyma'r amser cywir i'r cyngor weithio gyda datblygwyr eraill i gyflawni'n huchelgais a darparu model sy'n gweithio i Abertawe.

"Bydd y gynhadledd a'r gystadleuaeth ddylunio yn helpu i gyfeirio ein strategaeth, ond rydym hefyd am i'r cyhoedd a'n masnachwyr presennol ymuno yn y drafodaeth.

"Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod ailddatblygu canol y ddinas yn cadw ac yn adeiladu ar hunaniaeth a diwylliant Abertawe, ochr yn ochr â'r hyn sy'n ein gwneud yn wahanol, megis agosrwydd ein siopau, ein masnachwyr annibynnol a siopau arbenigol ochr yn ochr ag enwau mawr y stryd fawr. Rydym eisoes wedi buddsoddi'n sylweddol yng nghanol y ddinas, gan gynnwys prosiect £2 miliwn i ailwampio Marchnad Abertawe a phrynu a dymchwel safleoedd Canolfan Siopa Dewi Sant a Th? Oldway.

"Rydym eisiau amrywiaeth o ddatblygiadau manwerthu, swyddfa a phreswyl er mwyn creu ardal fywiog a chroesawgar sy'n fwy na chanolfan siopa yn unig.

"Rydym wedi cyflawni llawer eisoes. Bydd ein hadolygiad parhaus yn rhoi cynllun newydd ar gyfer canol y ddinas ac, os bydd y trafodaethau â darpar denant angor ar gyfer safle Canolfan Siopa Dewi Sant gynt yn dwyn ffrwyth, bydd yn denu mwy o fuddsoddiadau a miloedd yn fwy o siopwyr i ganol y ddinas ar adeg pan rydym yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi'r masnachwyr sydd eisoes yno.

"Mae Hammerson yn dal i fod yn rhan o Abertawe, ac edrychwn ymlaen at ystyried ei gynlluniau i ddatblygu Parc Tawe, a fydd yn helpu i gryfhau'r hyn sydd gan Abertawe i'w gynnig o ran manwerthu a hamdden ac yn ategu ein cynlluniau ar gyfer canol y ddinas."

Dywedodd llefarydd ar ran Hammerson: "Ein penderfyniad ni a Chyngor Abertawe ar y cyd oedd peidio ag adnewyddu'r cytundeb hwn, ond am ein bod yn berchen ar Barc Tawe ac yn ei reoli, rydym yn fuddsoddwr mawr yn Abertawe o hyd, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r cyngor." 

Rhannu |