Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Hydref 2013

Arian i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd ag anhwylderau bwyta

MAE y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford wedi cyhoeddi bod  £250,000 ar gael yn flynyddol i wella gwasanaethau arbenigol i blant a phobl ifanc sydd ag anhwylderau bwyta cymhleth yn y De.

Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod Byrddau Iechyd yn gallu rhoi arbenigedd i weithio â phobl ifanc a’u teuluoedd, yn ogystal â gwella hyfforddiant a sgiliau’r staff cyfredol.

Dywedodd Mark Drakeford: “Mae gennym ddyletswydd i amddiffyn a gwella iechyd a lles emosiynol ein plant a phobl ifanc.

“Pan fo gan blentyn neu berson ifanc broblemau emosiynol, rydym yn gwybod os yw hyn yn cael eu nodi a bod rhywun yn mynd i’r afael â’r broblem cyn gynted ag y bo modd, bod gwell siawns  i’r person hwnnw gael dyfodol sy’n fwy cadarnhaol.

“Prif bwrpas y cyllid newydd hwn yw  sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ailgynllunio. Bydd ariannu gwasanaethau arbenigol ar gyfer trrin anhwylderau bwyta yn caniatáu i blant a phobl ifanc aros yng Nghymru, sy’n mynd i arbed costau lleoli y tu allan i ardal. Yn eu tro, bydd yr arbedion hyn yn cael ei rhoi i’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed newydd. Bydd hyn yn sicrhau bod y person ifanc yn dal i allu cadw cysylltiad â’i deulu a ffrindiau wrth gael triniaeth, pan fo hynny’n bosibl.”

Disgwylir y cytunir yn fuan ar fanylion adefnydd y cyllid newydd gyda’r Byrddau Iechyd yn fuan. Mae disgwyl iddo ariannu staff meddygol, staff nyrsio, staff seicolegol a staff dietegol sydd ag arbenigedd penodol mewn anhwylderau bwyta, yn ogystal ag ehangu hyfforddiant a sgiliau gweithlu presennol y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed.

Drwy ddefnyddio’r adnoddau newydd, bydd ailgynllunio’r gwasanaeth yn galluogi i’r Byrddau Iechyd Lleol gynnal clinigau arbenigol i gleifion allanol a lleihau nifer y plant a phobl ifanc sydd ag anhwylderau bwyta neu broblemau iechyd meddwl eraill, sy’n cael eu lleoli y tu allan i ardal.

Bydd y cyllid hwn hefyd yn rhyddhau staff y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed i roi mwy o gefnogaeth i dderbyniadau brys ar gyfer pobl ifanc sydd ag anghenion mwy cymhleth.

Rhannu |