Mwy o Newyddion
Gwobrau lu i ganolfan fwyd Bodnant
Mae Bwyd Cymru Bodnant yn codi tri llwnc destun wrth ddathlu llwyddiannau ysgubol i’r bwyty a’r cynnyrch llaeth dros yr wythnosau diwethaf.
Mae’r ganolfan fwyd arloesol yn Nyffryn Conwy yn falch o dderbyn clod arbennig i fwyty’r Llofft Wair trwy gyrraedd pinacl y sefydliad bwytai gorau yn Y Deyrnas Gyfunol, a’i henwi yn ‘The Good Food Guide 2014.’
Enillodd gaws Bodnant Aberwen hefyd wobr yng nghystadleuaeth Gwobrau Caws Prydeinig. Cyflwynwyd y wobr efydd i Aberwen yng nghategori'r caws llaeth buwch newydd, ac mae’r siop deli hefyd wedi derbyn argymhelliad uchel gan y beirniaid yn y rhestr manwerthwr caws newydd gorau.
Croesawyd y gwobrau gan Reolwr Gyfarwyddwr Bwyd Cymru Bodnant, Chris Morton, fel yr eglura Neville Jones, Rheolwr Datblygu Busnes y ganolfan fwyd: “Mae’n wych derbyn clod gan sefydliadau safonol fel ‘The Good Food Guide’ a Gwobrau Caws Prydeinig.
“Mae’r gwobrau yn dangos safon ein cynnyrch a’r gwasanaeth rydyn ni’n ei chynnig yma, ac mae’n glod o’r mwyaf i’r tîm o staff sy’n gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni, nid dim ond yn y bwyty a’r llaethdy, ond trwy’r ganolfan gyfan.
“Rydyn ni’n mawr obeithio mai rhain fydd y cyntaf o nifer o wobrau ddaw i ran Bwyd Cymru Bodnant, gan helpu i osod gogledd Cymru ar y map fel prif gyrchfan ymwelwyr bwyd.”
Ers dros 60 mlynedd, mae The Good Food Guide wedi casglu a chroniclo’r bwytai gorau a’r rhai uchaf eu parch ledled Y Deyrnas Gyfunol i un llyfr, tra bo’r Gwobrau Caws Prydeinig yn enwog am ddathlu’r goreuon o fewn y diwydiant caws.
Caws Bodnant Aberwen yw’r cyntaf i’w gynhyrchu yn llaethdy’r ganolfan fwyd £6.5miliwn. Mae’n gaws hufennog gydag arlliw o flas citraidd iddo, ac fe’i gwneir gan ddefnyddio technegau traddodiadol a rysáit lleol sy’n dyddio nôl i’r 18 ganrif.
Yn ogystal â chynnig bwyty a llaethdy, mae Bwyd Cymru Bodnant hefyd yn gartref i siop fferm, cigydd, becws a siop win newydd sbon, yn ogystal ag ystafell de ac ysgol goginio benigamp.
Am wybodaeth bellach ewch i Bwyd Cymru Bodnant, www.bwydcymru-bodnant.co.uk.
Llun: Chris Morton, Rheolwr Gyfarwyddwr Bwyd Cymru Bodnant gyda Clare Jones, y Prif Gogydd yn dathlu cynnwys bwyty’r Llofft Wair yn ‘The Good Food Guide 2014’