Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Hydref 2013

Llochesi newydd mewn gorsafoedd ledled y De

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar brosiect gwerth £600,000 i adeiladu llochesi i deithwyr yng ngorsafoedd rheilffyrdd y De.

Codwyd y lloches gyntaf yng Ngorsaf y Pîl, a bydd cyfanswm o 21 o lochesi wedi’u hadeiladu mewn 18 o orsafoedd erbyn diwedd mis Tachwedd.

Mae’r gwaith yn rhan o Raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwella Gorsafoedd Cymru i godi safon gorsafoedd yng Nghymru.

Y gorsafoedd eraill fydd yn cael llochesi newydd neu well fydd: Treherbert, Pencoed (2), Wildmill, Sarn, y Garth, Ffordd Ewenni, Maesteg, Ystrad Rhondda (2), Ynyswen, Llwynypia, Troedyrhiw, Aberdâr, Cwm-bach, Fernhill, Pont-y-pŵl a New Inn, Penrhiwceibr a Thonypandy.

Meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart: “Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o’n hymdrechion i godi safonau gorsafoedd rheilffyrdd ledled Cymru trwy’r rhaglen gwella gorsafoedd.

"Rydym am wneud ein holl orsafoedd yn fwy hygyrch a gwella’r profiad i deithwyr er mwyn eu hannog i ddefnyddio’r trenau’n amlach i fynd i’w gwaith ac i siopa ac i ddibynnu llai ar eu ceir.” 

Rhannu |