Mwy o Newyddion
TAN 20 newydd, angen newidiadau yn y Bil Cynllunio
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod ‘gwendidau’ cyngor newydd TAN 20 yn dangos bod angen newidiadau llawer mwy pellgyrhaeddol i’r system gynllunio.
Dywed y nodyn technegol: “Ni ddylid cynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg gan y byddai hynny’n dyblygu prosesau dewis safleoedd y [cynllun datblygu lleol].”
Ychwanegodd y mudiad iaith eu bod nhw eisoes wedi gofyn am newidiadau mwy mewn dogfen bolisi a anfonwyd at Carwyn Jones yn ôl ar ddechrau mis Awst eleni.
Dywedodd Cen Llwyd, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r system gynllunio yn lladd y Gymraeg ar hyn o bryd.
"Byddwn ni’n ystyried y nodyn newydd yn fanwl, ond mae’r gwendidau ynddo fe yn dangos angen difrifol am newidiadau mwy sylfaenol i’r system gynllunio’n ehangach, a hefyd arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru.
"Mae nifer fawr o awdurdodau wedi mabwysiadu eu cynlluniau datblygu lleol yn barod, a dyw’r canllawiau ddim yn delio â’r broblem honno.
"Dyna pam anfonon ni bapur safbwynt manwl at Carwyn Jones. Mae’r ffaith bod y nodyn yn datgan na ddylai awdurdodau gynnal asesiadau effaith iaith ar geisiadau cynllunio unigol yn rhyfedd iawn.
"Dyw’r nodyn ddim yn trin y Gymraeg fel iaith i bawb nac i bob rhan o Gymru chwaith.”
Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Nid nawr yw’r amser i wneud mân newidiadau i’r system gynllunio.
"Am lawer rhy hir, mae’n cymunedau a’n pobl – boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio – wedi dioddef effeithiau negyddol y farchnad rydd.
"Yn hytrach na gwasanaethu pobl a chymunedau, mae’r farchnad dai a’r gyfundrefn gynllunio wedi cymryd mantais ohonynt.
"Mae pwerau deddfu newydd Cynulliad Cymru yn cynnig cyfle i dorri’n rhydd o’r meddylfryd neo-ryddfrydol hwnnw.
"Hefyd, mae angen ateb Cymru-gyfan, yn hytrach nag un sydd ddim ond yn amddiffynnol ynglŷn â'r Gymraeg. Cred y Gymdeithas fod gan bob cymuned botensial i fod yn gymuned Gymraeg, a dylai'r system gynllunio gyfrannu at dyfu’r Gymraeg, yn ogystal ag amddiffyn y cymunedau Cymraeg sy’n bodoli eisoes.”
Ymysg argymhellion y mudiad ar gyfer newidiadau i’r system gynllunio, maen nhw’n galw am i’r Bil Cynllunio:
?gynnwys asesu'r angen lleol am dai cyn datblygu; sicrhau'r hawl i gartref am bris teg (i'w rentu neu i'w brynu) yng nghymuned y person sy'n rhentu neu brynu; blaenoriaeth i bobl leol drwy'r system bwyntiau tai cymdeithasol; system gynllunio sydd yn gweithio er budd y gymuned; sicrhau ailasesu caniatâd cynllunio blaenorol;
?sicrhau hawliau cymunedau i ymwneud â'r broses gynllunio a rhoi hawl i gymunedau a grwpiau apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio;
?sefydlu “Arolygiaeth Gynllunio” i Gymru fel corff gwbl annibynnol, corff sydd yn gyfrifol am apeliadau ac archwiliadau i mewn i ddatblygiadau cynllunio, a sicrhau rheolaeth ddemocrataidd ohono”;
?wneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol, a gosod TAN 20 ar sail statudol;
?atal pob cynllun datblygu unedol tan fydd asesiad wedi ei wneud o’i effaith ar y Gymraeg;
?sicrhau bod cynghorwyr yn gallu gwrthod cais cynllunio ar sail yr effaith ar y Gymraeg