Mwy o Newyddion
Calonogi gan y bleidlais ar effaith amgylcheddol
Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi pleidleisio o blaid cynigion i ddiwygio deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar asesiadau effaith amgylcheddol.
Eglurodd Jill Evans ASE, sydd yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop, y byddai’r bleidlais yn peri i asesiadau fod yn orfodol ar gyfer chwilota ac echdynnu tanwydd ffosil anghonfensiynol, gan gynnwys nwy siâl.
Dywedodd hithau: “Mae’n naturiol y dylai’r projectau yn fod yn ddarostyngedig i’r un asesiadau â phrojectau isadeiledd eraill. Mae’r rhagolygon ynglŷn â ffracio eang - sef y broses o echdynnu nwy siâl - wedi peri gofid i nifer fawr o bobl yng Nghymru, a dylai’r diwygiad hwn sicrhau safon sylfaenol o asesiad a chyfranogaeth gan y cyhoedd.
“Mae’n arbennig o bwysig bod lleisiau cymunedau Cymru sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan unrhyw ffracio’n cael eu clywed, yn enwedig pan fod llywodraeth y DG mor benderfynol o annog cymorthdalu mentrau ffracio.
“Dyw’r rhan fwyaf o ddatblygiadau ynni heb eu datganoli. Mae gan Gymru ddigonedd o ynni adnewyddadwy ond gall y ‘brys am nwy’ fod yn rhywbeth sy’n niweidiol yn unig i Gymru wrth iddi geisio cyflawni ei photensial i fod yn brif ganolfan ar gyfer ynni adnewyddadwy.
"Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo tuag at wneud Cymru’n genedl fwy cynaliadwy. Rydym wedi cyflwyno cynlluniau i sicrhau fod gan Gymru gyflenwad o ynni adnewyddadwy, gwyrdd. Rydym wedi galw hefyd ar i holl bwerau ynni gael eu datganoli er mwyn i ni yng Nghymru allu rheoli ein hadnoddau a chynllunio ar gyfer ein dyfodol."
Ychwanegodd Jill Evans bod nifer o etholwyr oedd yn gofidio am y prosesau echdynnu nwy siâl wedi dod i gyswllt â hi: “Mae’r broses yma, sy’n golygu pwmpio cymysgedd o gemegolion, sy’n cynnwys rhai sydd yn garsinogenaidd, yn ddwfn dan ddaear , yn annerbyniol.
"Rwy’n rhannu pryderon fy etholwyr ac yn gwrthwynebu ffracio , fel mae Plaid Cymru. Rwy’n galw am ohiriad neu foratoriwm ar ffracio hyd nes bod yr holl bryderon ynglŷn â diogelwch wedi cael eu lliniaru.
“Mae yna bryderon hefyd y gellir llygru’r dŵr daear yn ogystal â daeargrynfeydd bychain, fel y profodd pobl arfordir Fylde ger Blackpool yn ystod y broses hollti hydrolig, sef y broses a elwir yn ‘ffracio’.
“Unwaith eto, mae adnoddau naturiol Cymru’n cael eu hysbeilio yn ystod gwibdaith unionsyth llywodraeth y DG, heb lawer o fudd neu efallai dim o gwbl i’n cymunedau. Does dim awydd ar Blaid Cymru i weld camgymeriadau’r gorffennol yn cael eu hailadrodd a dymunwn weithio gyda chymunedau lleol er mwyn datblygu ein hadnoddau helaeth.”