Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Hydref 2013

Cymru'n gyntaf - slogan newydd Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn cychwyn eu cynhadledd flynyddol yn Aberystwyth mewn ysbryd da, gan addo canolbwyntio ar eu gweledigaeth i Gymru a datgelu polisïau cyffrous ar gyfer y dyfodol.

Bydd y gynhadledd ddeuddydd, sy’n cychwyn yfory (Gwener) hefyd yn gweld Plaid  Cymru yn lansio’u slogan ar gyfer etholiadau Ewropeaidd 2014 - Cymru’n Gyntaf!

Bydd Plaid Cymru yn pwysleisio mai dim ond trwy roi Cymru yn gyntaf y bydd Llywodraeth Cymru yn galluogi’r genedl i gyrraedd ei llawn botensial.

Ac er mwyn annog aelodau i gymryd mwy o ran, y gynhadledd hon fydd yr un gyntaf y gall pob aelod fod yn bresennol a phleidleisio eu hunain yn hytrach na gwneud hyn trwy system o gynrychiolwyr cangen ac etholaeth.

Dywedodd Elin Jones, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Geredigion a’r llefarydd cysgodol ar Iechyd:  “Rwyf wrth fy modd fod ein cynhadledd genedlaethol yn dychwelyd i Geredigion. Mae hon yn gynhadledd arbennig iawn, am y gall pob aelod unigol o’r blaid, am y tro cyntaf, fod yn bresennol  a phleidleisio’n llawn.

“Bydd y gynhadledd mewn ysbryd da iawn yn dilyn y fuddugoliaeth ryfeddol yn isetholiad Ynys Môn a llwyddiannau mewn etholiadau cyngor ledled Cymru. Yma yng Ngheredigion mae’r blaid yn estyn allan yn fwy nac erioed o’r blaen; mae gennym ymgeisydd cyffrous newydd ar gyfer San Steffan yn Mike Parker, ac y mae aelodau newydd yn ymuno’n llif gyson.

“Bydd y gynhadledd hon yn gyfle i ganoli ar ein gweledigaeth i Gymru fel plaid. Rydym eisoes wedi cyflwyno polisïau newydd ar iechyd trwy ein bargen ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru, a byddwn yn cyflwyno syniadau cyffrous ar gyfer y dyfodol.

“Mae ardaloedd fel Ceredigion mor aml yn cael eu hanwybyddu gan y tair prif blaid, ond y maent wrth graidd ein gweledigaeth a’n meddylfryd ni. Ni yn unig sy’n rhoi anghenion Cymru yn gyntaf, a gallwn ddatblygu atebion newydd a mentrus i’r problemau sy’n effeithio arnom – o greu swyddi o safon a datblygu ein diwydiant ymwelwyr, i ddatblygu atebion i anawsterau cyflwyno gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i’r bobl fwyaf bregus mewn ardaloedd gwledig.”

Ychwanegodd Mike Parker, ymgeisydd San Steffan Plaid Cymru dros Geredigion: "Rwyf yn falch iawn fod Plaid Cymru yn cynnal eu cynhadledd flynyddol yn Aberystwyth.

"Ugain mlynedd yn ôl, yn y Rough Guide to Wales cyntaf, ysgrifennais mai’r dref yw’r 'lle mwyaf pleserus a hwyliog i gael yr ymdeimlad gorau o psyche’r genedl', ac felly mae heddiw.

"Mae’n dref fywiog a chosmopolitaidd, wedi ei gwreiddio yn ddwfn yn ei Chymreictod, a chyda’i llygaid ar orwel ysblennydd arfordir y gorllewin.

"Ar y funud dyngedfennol hon yn ein hanes, gyda mwy a mwy yn siomedig gyda’r pleidiau Llundeinig a’r ffordd y maent yn anwybyddu anghenion Cymru mor ddi-feind, rwy’n teimlo’n sicr y bydd y gynhadledd hon yn rhoi hwb gwirioneddol i’r Blaid.”

Rhannu |