Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Hydref 2013

Cynnydd yn nifer yr ymwelwyr

Mae data a gasglwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi datgelu fod yna gynnydd yn nifer yr ymwelwyr i’r ardal yn ystod tymor twristiaeth yr haf.

Rhwng Mai ac Awst 2013 cofnodwyd cynnydd o 14% gan rifyddion oedd wedi’u lleoli ar hyd 186 milltir Llwybr Cenedlaethol Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro o’i gymharu â’r un cyfnod llynedd, y cynnydd mwyaf wedi’i gofnodi yn Abereiddi.

Dywedodd Dave MacLachlan, Swyddog Llwybrau Cenedlaethol: “Eleni fe gawson ni dywydd ardderchog yn ystod misoedd yr haf ac mae’n ardderchog i weld bod cymaint o bobl wedi manteisio ar hynny a mwynhau cerdded ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro.

“Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Llwybr yr Arfordir yn cael ei gynnal i’r safonau uchaf posibl er mwyn iddo barhau’n hygyrch i gymaint o bobl ag sy’n bosibl trwy’r flwyddyn. Mae’r gwaith hwnnw yn hynod o bwysig gan fod Llwybr yr Arfordir yn parhau i fod yn un o’r atyniadau twristiaeth mwyaf sydd yn y sir.”

Mae Llwybr yr Arfordir yn generadu £14miliwn o arian gwario yn yr ardal bob blwyddyn. Mae’r golygfeydd rhyfeddol sydd i’w gweld o’r llwybr yn dal sylw cannoedd o filoedd o bobl leol ac ymwelwyr yn flynyddol - mae’n cynhyrchu tua 1 miliwn o ddefnyddwyr bob blwyddyn.

Mae ffigurau o ganolfannau croeso ac atyniadau Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd yn nodi tymor twristiaeth da, gyda’r niferoedd yn cynyddu ar draws y bwrdd.

Fe gynyddodd niferoedd yr ymwelwyr â Chastell Carew dros 17% o’i gymharu â llynedd, gyda’r Castell bellach wedi cael ei adnewyddu’n enfawr yn ystod y tymor tawel, hynny’n cynnwys to newydd y Neuadd Lai.

Ychwanegodd Mike James, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae darllen yr ystadegau hyn yn codi calon rhywun a gobeithio eu bod yn dangos tymor da i ddiwydiant twristiaeth Sir Benfro yn gyffredinol.

“Mae’r data hwn yn atgyfnerthu’r ymchwil sy’n dangos bod gan y Parc Cenedlaethol effaith gadarnhaol ar yr economi lleol, gan gyfrannu dros £80 miliwn i GDP Cymru ac yn cefnogi dros 4,500 o swyddi.”  

Rhannu |