Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Hydref 2013

Dathlu achub Llangyndeyrn

CYNHELIR wythnos o ddathliadau rhwng Hydref 20 a 27 i nodi'r ffaith bod Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach wedi'u hachub rhag cael eu boddi.

Ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au, datblygodd Corfforaeth Abertawe, a fodolai ar y pryd, gynigion ar gyfer adeiladu argae a chronfa ddŵr yng Nghwm Gwendraeth Fach, er mwyn cyflenwi dŵr i Abertawe.

Roedd y cynigion yn cynnwys adeiladu argae a fyddai wedi arwain at foddi tir fferm cynhyrchiol, sawl tŷ fferm a nifer o dai ym mhentref Llangyndeyrn ac o'i amgylch, a hefyd i fyny'r afon i bentref Porth-y-rhyd. Byddai pentref Llangyndeyrn wedi'i effeithio'n fawr, gan y byddai wal argae fawr wedi'i hadeiladu ar ei ochr ddwyreiniol. Byddai cartrefi wedi'u colli, bywoliaethau wedi'u difetha a byddai'r gymuned wedi'i thynnu'n ddarnau.

Sefydlodd y gymuned bwyllgor amddiffyn i frwydro yn erbyn cynllun Corfforaeth Abertawe. Daeth Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn ynghyd a chafwyd brwydr hir a chaled yn erbyn y cynigion, a gyrhaeddodd ei hanterth ag ymdrech ddwys yn 1963 oedd yn cynnwys nifer o wrthdrawiadau rhwng y ddwy ochr ym mhentref Llangyndeyrn.

Ar ôl cryn wrthwynebiad yn lleol, gorfodwyd Corfforaeth Abertawe i ailystyried y cynnig ac, yn lle hynny, dewisodd ddatblygu cronfa ddŵr yn Rhandir-mwyn, gan ffurfio argae presennol Llyn Brianne.

Roedd yr ymgyrch lwyddiannus mewn cyferbyniad â boddi Capel Celyn i ffurfio cronfa ddŵr Tryweryn, er mwyn darparu dŵr i Lerpwl.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn helpu cymuned leol Llangyndeyrn fel rhan o'u dathliadau i nodi 50 mlynedd ers yr ymdrech.

Mae arddangosfa yn cael ei chynnal yn Neuadd yr Eglwys, Llangyndeyrn, am yr wythnos gyfan. Cynhelir yr agoriad swyddogol ddydd Sul Hydref 20 am 3pm, ac yna bydd te-parti i'r plant yn y Pafiliwn dros y ffordd. Yr oriau agor yw dydd Llun 11am-6pm, dydd Mawrth 11am-6pm, dydd Mercher 12-10pm, dydd Iau 12-10pm, dydd Gwener 11am-4pm, dydd Sadwrn 11am-4pm a dydd Sul 10am-1pm.

Ddydd Llun a dydd Mawrth am 7.30pm ceir perfformiad o basiant y plant, Mewn Undod Mae Nerth. Mae tocynnau ar gael gan Fenter Cwm Gwendraeth drwy ffonio 01269 871600.

Ddydd Mercher mae Noson Carped Coch i lansio ffilm Ysgol y Fro, Yma o Hyd, yn y Pafiliwn am 7pm. Gellir cael tocynnau am £5 wrth y drws, ac mae mynediad am ddim i blant.

Ddydd Gwener mae noson fawreddog yn cynnwys Neil Rosser a'i fand, cinio tri chwrs ac arwerthiant. Mae'r tocynnau'n costio £30 a gellir eu cael gan Chris Smith drwy ffonio 01269 870615.

Cynhelir Cyngerdd Mawreddog ddydd Sadwrn yn cynnwys Dafydd Iwan, Gwenda a Geinor, a Lleisiau’r Cwm. Mae'r tocynnau'n costio £15 a gellir eu cael gan Chris Smith drwy ffonio 01269 870615.

Ddydd Sul Hydref 27 bydd y rhaglen deledu Dechrau Canu Dechrau Canmol yn ffilmio Gwasanaeth Diolchgarwch, dan arweiniad Mrs Meinir Richards, yng nghwmni Seindorf Arian Crwbin yn Eglwys Llangyndeyrn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.llangyndeyrn.org/

Rhannu |