Mwy o Newyddion
Diddordeb byd-eang yng Ngŵyl Dylan Thomas 2013
Disgwylir i ymwelwyr o bob cwr o'r byd fynd i Ŵyl Dylan Thomas eleni a gynhelir ymhen ychydig wythnosau.
Mae pobl o Siapan, Awstralia ac UDA ymhlith y rhai sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n rhan o'r ŵyl.
Cynhelir yr ŵyl, a drefnir gan Gyngor Abertawe, o 26 Hydref tan 9 Tachwedd.
Mae'n cael ei lansio gan Roger McGough, awdur i blant, a fydd yn darllen o'i gasgliad newydd o farddoniaeth.
Meddai'r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio: "Eleni, bydd Gŵyl Dylan Thomas yn arbennig o ingol wrth i ni gyfrif y dyddiau cyn 2014 – blwyddyn sy'n nodi can mlynedd ers ei eni.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a nifer o bartneriaid eraill ar raglen ddigwyddiadau wych i ddathlu 2014, ond bydd Gŵyl Dylan Thomas sydd ar ddod yn rhagflas aruthrol.
"O newyddiadurwyr pêl-droed enwog a gweithwyr proffesiynol ym myd teledu i feirdd o fri a cherddorion blaenllaw, bydd rhywbeth i bawb ei fwynhau.
"Mae denu ymwelwyr o mor bell ag Awstralia, UDA a Siapan yn dangos nad yr Elyrch yn unig sy'n rhoi ein dinas ar y map ar draws y byd.
"Rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau fel hyn yn atgyfnerthu ein statws fel dinas diwylliant flaenllaw ar adeg pan rydyn ni'n cystadlu gyda Dundee, Hull a Chaerlŷr i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2017."
Eleni, bydd 16eg Ŵyl Dylan Thomas hefyd yn cynnwys comisiwn canmlwyddiant newydd gan Gillian Clarke, bardd o Gymru, a diwrnod llawn hwyl i ddathlu hanner canmlwyddiant Doctor Who.
Bydd nodweddion eraill yn cynnwys noson seiliedig ar 'The Killing', rhaglen deledu Ddanaidd boblogaidd. Bydd David Hewson, sydd wedi addasu cyfresi un a dau fel nofelau, ac Emma Kennedy, awdur 'The Killing Handbook', yn bresennol.
Bydd newyddiadurwyr pêl-droed o The Guardian yn recordio'u podlediad Pêl-droed Wythnosol a fydd yn edrych ar gêm ddarbi De Cymru a bydd yr ŵyl hefyd yn mynd ar daith gyda noson o ddarlleniadau o waith Dylan yn ei hen dafarn leol, Uplands Tavern.
Mae Cwmni Theatr Fluellen yn cynnig rhagolwg a thrafodaeth ar ei gynhyrchiad newydd o 'Merched Beca'.