Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Medi 2013

“Does neb yn anghofio’r aberth” – Carwyn Jones

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi talu teyrnged i’r swyddogion hynny yn yr heddlu sydd wedi gwneud yr aberth eithaf wrth wneud eu dyletswydd ac wedi canmol eu hymrwymiad a’u dewrder cyn y degfed gwasanaeth blynyddol ar Ddiwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu ddydd Sul.

Mae dros 4,000 o swyddogion yr heddlu wedi’u lladd ar ddyletswydd ers i blismona modern gychwyn. Er mwyn sicrhau nad yw eu haberth yn mynd yn angof, cynhelir Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol yn flynyddol ledled y Deyrnas Unedig lle gall heddluoedd ledled y Deyrnas Unedig ymuno â theulu, ffrindiau a chydweithwyr swyddogion yr heddlu sydd wedi marw ar ddyletswydd.

Bydd y gwasanaeth eleni – dengmlwyddiant y digwyddiad – yn cael ei gynnal yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ddydd Sul, 29 Medi. Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths yn mynd i’r gwasanaeth.

Cyn y gwasanaeth, dywedodd Mr Jones: “Anrhydedd mawr yw gallu cynnal y degfed gwasanaeth coffa blynyddol yng Nghymru eto eleni. Nid oes modd mesur cyfraniad yr heddlu i’n cymuned. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt.

“Yn anffodus, bob blwyddyn mae aelodau o’r heddlu’n rhoi eu bywyd er mwyn sicrhau ein bod ni’n cael byw’n ddiogel. Mae’r gwasanaeth coffa yn gyfle i ni gofio’r swyddogion hynny, ac i sicrhau bod eu perthnasau, eu ffrindiau a’u cydweithwyr yn gwybod nad yw’r aberth wedi mynd yn angof.”

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: “Gan fod plismona yn rhan o’m portffolio i, rwy’n llwyr ymwybodol o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yn ein cymuned. Rwy’n ymwybodol o ba mor bwysig yw Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yng nghalendr yr heddlu.

“Mae’r diwrnod yn cydnabod ymroddiad swyddogion yr heddlu i’w dyletswydd, heb sôn am y dewrder sy’n cael ei ddangos ganddynt yn ddyddiol. Maent yn rhoi diogelwch eraill o flaen eu diogelwch eu hunain er mwyn i ni gael byw mewn heddwch.”

Cynhelir Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu ar y dydd Sul agosaf i 29 Medi bob blwyddyn, sef diwrnod Sant Mihangel, nawddsant swyddogion yr heddlu. Mae’r gwasanaeth yn cylchdroi rhwng y pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig.

Sefydlwyd y Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn 2004 gan y Rhingyll Joe Holness, QPM. Bydd oddeutu 1500 o bobl yn mynd i’r gwasanaeth eleni. Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yw noddwr y diwrnod cofio.

Llun: Carwyn Jones

Rhannu |