Mwy o Newyddion
ASE Plaid yn dathlu Diwrnod Ewropeaidd Ieithoedd
Heddiw, ar Ddiwrnod Ewropeaidd yr Ieithoedd mae Jill Evans ASE wedi ailadrodd ei galwad i wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae yna 500 miliwn o drigolion yn byw yn 28 Aelod Wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ac mae yna 24 iaith swyddogol.
Ar hyn o bryd mae gan y Gymraeg ‘statws cyd-swyddogol’ , fel y Galisieg, Catalaneg, Basgeg a Gaeleg yr Alban.
Dywedodd Jill Evans: "Fe enillon ni statws hanner-swyddogol ar gyfer yr Iaith Gymraeg yn Ewrop yn 2008.
"Roedd hynny’n gam hanesyddol ac fe lwyddodd i wneud llawer i godi proffil yr iaith.
"Ond credaf fod y Gymraeg yn gyfartal â nifer o ieithoedd sydd eisoes â statws swyddogol lawn.
"Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru a dylai fod ganddi’r un statws yn Ewrop.
"Mae hwn yn fater o gydraddoldeb i holl bobl yr Undeb Ewropeaidd.
"I fi, mae gwneud pob un o’n ieithoedd yn gyfartal o ran statws yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn teimlo fod Ewrop yn berthnasol iddyn nhw.
"Mae hwn yn fater sydd yn ymwneud â democratiaeth a chyfiawnder, sef materion fydd yn ganolog i ymgyrch yr Etholiadau Ewropeaidd y flwyddyn nesaf.
"Heddiw, ar Ddiwrnod Ewropeaidd yr Ieithoedd, byddaf yn gofyn i Lywodraethau Cymru a’r DG i gefnogi gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yn yr UE.”