Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Medi 2013

Rhaid i Lywodraeth Cymru beidio ag osgoi cyfrifoldeb am Gŵn Peryglus

Mae Plaid Cymru heddiw wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o osgoi’i chyfrifoldeb o ran deddfu i reoli cŵn peryglus yng Nghymru.

Mae llefarydd y blaid ar Les Anifeiliaid, Llyr Gruffydd, wedi dweud bod penderfyniad y llywodraeth i roi’r gorau i’w deddfwriaeth ei hun a derbyn Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Pholisi Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gam yn ôl o ran lles anifeiliaid.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Les Anifeiliaid, Llyr Gruffydd: “Ar ôl ymgynghori ynglŷn â’i bil ei hun, Bil Rheoli Cŵn (Cymru), ei ddrafftio a’i gyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru wedi chwalu’i chynigion ei hun, a fyddai wedi cynnwys nifer o ddarpariaethau i wneud gwahaniaeth go iawn o ran mynd i’r afael â chŵn peryglus.

“Roedd pwyslais arbennig yn y ddeddfwriaeth Gymreig ar atal, addysgu a chodi ymwybyddiaeth. Mae Bil y Deyrnas Gyfunol ar y llaw arall yn canolbwyntio mwy ar gosbi er mwyn rheoli cŵn, ac nid yw’n cyflawni’r amcanion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei deddfwriaeth hi.

“Mae bwriad Llywodraeth Cymru yn mynd yn groes i lawer o’r gwaith rhagorol sydd wedi’u wneud dros y blynyddoedd diwethaf i hybu’r agenda lles anifeiliaid yng Nghymru.

“Prin ddwy flynedd ar ôl i les anifeiliaid gael ei ddatganoli i Gymru rydym yn gweld Gweinidog Llafur yn dewis gadael i Weinidog llywodraeth glymblaid San Steffant ddeddfu ar hyn yn hytrach nag ysgwyddo’r cyfrifoldeb ei hun.

“Roedd bil Llywodraeth Cymru yn ddeddfwriaeth bwrpasol ar gyfer Cymru, yn canolbwyntio’n gadarn ar fynd i’r afael â chŵn peryglus. Mae’r mater bellach wedi cael ei daflu i’r pair o ddeddfwriaeth a geir ym Mil y Deyrnas Gyfunol, sy’n delio â llu o faterion, yn amrywio o briodasau dan orfod i derfysgaeth.”

Rhannu |