Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Medi 2013

Angen banc i Gymru i sicrhau adferiad

Bydd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC, yn dweud heno (nos Iau, 26 Medi) wrth gyfarfod o Arian Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fod angen banc i Gymru er mwyn sicrhau adferiad yng Nghymru, ac i adeiladu economi lwyddiannus yng Nghymru yn y tymor canolig i hir.

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn dweud y dylai banc i Gymru ganolbwyntio ar gefnogi twf busnes a chwmnïau yng Nghymru sy’n creu cyflogaeth newydd, yn hytrach na gwneud arian i gyfranddalwyr.

Gyda dyletswydd i gefnogi twf cynaliadwy yn economi Cymru, banc cenedlaethol i Gymru fyddai yn y sefyllfa orau i ganolbwyntio ar ddatblygiad economaidd tymor hir Cymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC: “Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro am fanc i Gymru a fyddai’n canolbwyntio fel blaenoriaeth ar ddatblygu economi Cymru mewn ffordd gynaliadwy.

“Byddai banc i Gymru yn helpu i hyrwyddo cyflogaeth safonol yng Nghymru, yn ogystal ag ysgwyddo’r cyfrifoldeb am symbylu’r sectorau gweithgynhyrchu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy, gan wneud y gwaith yr oedd y Banc Buddsoddi Gwyrdd i fod ei wneud.

“Hoffai Plaid Cymru weld y banc yn cael y dasg o ehangu ein cwmnïau bach a chanolig eu maint a hyrwyddo’r cwmnïau hynny sy’n cynnal busnesau eraill yng Nghymru.

“Ac, wrth gwrs, ni fyddai yn nwylo cyfranddalwyr sy’n cael difidendau.

“Yn lle bod arian yn cael ei gyfeirio tuag at brosiectau tymor byr, gallem sicrhau wedyn ei fod yn buddsoddi mewn manteision tymor hir i bobl a chymunedau Cymru.

“Rhaid i hynny fod yn nod pennaf unrhyw bolisi economaidd, cyllidol ac ariannol i Gymru – yr hyn sy’n dod â’r budd mwyaf i’r nifer fwyaf o bobl yn ein cymunedau.”

Rhannu |