Mwy o Newyddion
Cyflogwyr i ddangos i fyfyrwyr pam mae sgiliau rhifedd da = dyfodol disglair
Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi lansio cynllun i annog cyflogwyr yng Nghymru i weithio gydag ysgolion a myfyrwyr i ddangos iddynt pa mor ddefnyddiol yw rhifedd mewn bywyd yn y byd tu allan.
Nod y rhaglen Ymgysylltu â Chyflogwyr ar Rifedd yw sicrhau bod disgyblion mewn ysgolion uwchradd (CA3 a CA4) yn deall pa mor bwysig yw meddu ar sgiliau rhifedd da yn y byd gwaith, a bod cael y sgiliau hyn yn eu gwneud yn fwy cyflogadwy, yn ogystal ag yn fwy hyderus wrth drafod ffigurau.
Dywedodd Huw Lewis: “Weithiau mae’n anodd i ddysgwr yn yr ystafell ddosbarth weld perthnasedd yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu i’r byd go iawn. Dyna pam mae’r cynllun newydd hwn mor bwysig ac arloesol.
“Trwy gael cyflogwyr i weithio gyda phobl ifanc ac athrawon yn y dosbarth, yn dangos sut mae mathemateg a rhifau’n cael eu defnyddio’n ymarferol mewn gwahanol feysydd, bydd y disgyblion yn dod i sylweddoli pa mor bwysig yw cael sgiliau rhifedd da yn y dyfodol.
“Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad clir i wella safonau llythrennedd a rhifedd i bawb, gan leihau effeithiau amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol. Fel rhan o hynny, byddwn ni’n cynnal rhaglen bum mlynedd o weithgareddau o dan y Rhaglen Rhifedd Cenedlaethol, er mwyn codi lefelau rhifedd ymhlith disgyblion oedran ysgol ledled Cymru.
“Mae’r cynllun newydd hwn yn rhan bwysig o’r gwaith parhaus hwnnw. Dw i’n siŵr y bydd yn helpu i baratoi ein pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith, a hefyd bydd yn hyrwyddo enw da a chodi proffil cyflogwyr a chwmnïau yn y gymuned.”
Byd y cynllun newydd yn gweithredu ar lefel ranbarthol er mwyn bodloni anghenion ysgolion unigol, a bydd yn seiliedig ar yr hyn y gall cyflogwyr lleol ei ddarparu. Mae hynny’n rhoi cyfle i bob rhaglen fod yn arloesol ac yn unigryw.
Bydd tri sefydliad, sef Techniquest, Techniquest Glyndŵr, a Steam Powered Stories, yn defnyddio’u cysylltiadau presennol, neu’n creu cysylltiadau newydd rhwng cyflogwyr ac ysgolion. Byddan nhw’n gyfrifol am weithredu model pwrpasol i greu cysylltiadau rhwng ysgolion a busnesau gyda’r nod o ddatblygu sgiliau rhifedd y disgyblion. Bydd y model hwn yn manteisio ar gryfderau cyflogwyr unigol i fodloni anghenion penodol yr ysgol.
Llun: Huw Lewis