Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Medi 2013

Ymgynghoriad ar ddyfodol Llys Ynadon Castell Nedd

Heddiw, cyhoeddodd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM ei fod yn lansio ymgynghoriad ar ddyfodol Llys Ynadon Castell Nedd.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig y dylid cau Llys Ynadon Castell Nedd, uno Mainc Castell Nedd a Phort Talbot â Mainc Abertawe, a throsglwyddo’r gwaith i Lys Ynadon Abertawe. 
 
Ni ddefnyddir digon ar Lys Ynadon Castell Nedd, ac mae angen buddsoddiad o oddeutu £1.3m ar gyfer gwaith cynnal a chadw.

Mae lleoliad y llys hefyd yn tarfu ar gynlluniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot i ailddatblygu’r ardal yn sylweddol.

Nid yw GLlTEM wedi llwyddo i ganfod safle addas a fforddiadwy arall yng Nghastell Nedd, ac nid yw cadw’r llys ar agor yn cynnig y gwerth gorau am arian i’r trethdalwr.
.
Mae Llys Ynadon Abertawe yn adeilad llys modern sydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol, gyda chysylltiadau trafnidiaeth da, cyfleusterau ardderchog, ac sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb.

Byddai’r cynnig yn caniatáu Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM i sicrhau y defnyddir ei ystâd yn fwy effeithlon, yn ogystal â chynnig arbedion o oddeutu £220,000 y flwyddyn i’r sefydliad.
 
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn defnyddwyr lleol, y farnwriaeth, yr ynadaeth, staff, ymarferwyr asiantaethau cyfiawnder troseddol a chynrychiolwyr etholedig i ddeall yn well yr effaith a geir y cynnig hwn ar y gymuned yng Nghastell Nedd a Phort Talbot.

Gallwch weld yr ymgynghoriad ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn at  https://consult.justice.gov.uk/digital-communications/future-of-neath-magistrates-court
 

Rhannu |