Mwy o Newyddion
Gwaith Bwthyn Swisaidd i ddechrau yn yr hydref
Mae gwaith i adfer Bwthyn Swisaidd Parc Singleton a ddifrodwyd gan dân wedi'i gymeradwyo i ddechrau.
Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, wedi rhoi caniatâd i Gyngor Abertawe ddechrau gwaith adfer gyda mathau penodol o ddeunyddiau.
Cafodd y Bwthyn Swisaidd ei ddifrodi'n wael gan ymosodiad llosgi bwriadol ym mis Medi 2010.
Oherwydd statws rhestredig yr adeilad, roedd angen cymeradwyaeth Cadw ar gyfer y math o ddeunyddiau i'w defnyddio yn ystod y gwaith adfer.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gyllid ac Adnoddau, "Bu'r Bwthyn Swisaidd yn nodwedd boblogaidd o Abertawe am flynyddoedd lawer cyn i losgwyr bwriadol ymosod arno'n ddifeddwl.
"Rydym bob amser wedi bwriadu adfer yr adeilad, ond roedd angen caniatâd Cadw arnom ar gyfer y math o ddeunyddiau i'w defnyddio yn ystod y gwaith adfer oherwydd ei statws gwerthfawr fel adeilad rhestredig.
"Rydym wedi bod yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr deunyddiau ers tro i fod yn sicr bod yr hyn rydym yn ei ddefnyddio'n addas ar gyfer yr adeilad eiconig hwn ac mae cytundeb bellach wedi'i gyrraedd gyda Cadw.
"Rydym yn bwriadu bod ar y safle er mwyn dechrau'r gwaith i adfer yr adeilad erbyn canol mis Tachwedd ac mae hynny'n golygu y dylai pobl fwynhau'r Bwthyn Swisaidd hanesyddol eto pan fydd yr haf yn ôl y flwyddyn nesaf."
Bydd y gwaith yn cynnwys ail-doi, ailadeiladu'r simnai ac ailosod pren a chladin. Bydd nenfydau, waliau a lloriau hefyd yn cael eu hailadeiladu, a gwneir gwaith tirlunio gerllaw.
Mae trafodaethau am liwiau'r paentiau i'w defnyddio yn yr adeilad yn parhau, ond ni fydd hynny'n atal gwaith rhag dechrau ar y safle.
Mae'r gwaith hefyd yn rhoi cyfle i brentisiaid Cyngor Abertawe ddysgu sgiliau saer coed traddodiadol oherwydd golwg y Bwthyn Swisaidd a'i statws fel adeilad rhestredig.