Mwy o Newyddion
Mwy na 40 o blant yn Abertawe yn aros am gartrefi mabwysiadol
Mae angen cartrefi mabwysiadol gofalgar yn ddirfawr ar fwy na 40 o blant a phobl ifanc yn Abertawe.
Mae Mabwysiadu Abertawe, tîm mewnol o weithwyr cymdeithasol mabwysiadu proffesiynol Cyngor Abertawe, am atgoffa pobl o bob cefndir y gallant o bosib fod yn rhieni mabwysiol.
Mae Cyngor Abertawe yn rhan o gonsortiwm rhanbarthol sydd wedi lansio ymgyrch Mabwysiadu Cymru newydd i geisio annog mwy o bobl i feddwl am ddyfodol gyda phlentyn neu blant maent wedi'u mabwysiadu.
Meddai Diane Chancer, Rheolwr Tîm Mabwysiadu Abertawe: "Mae mabwysiadu'n ffordd o ddarparu cartref gofalgar, hapus a chariadus i blentyn nad yw, am ba bynnag reswm, yn gallu byw gyda'i deulu biolegol. Mae'n ymrwymiad am oes sy'n rhoi amgylchedd sefydlog a diogel i blentyn lle gall ffynnu'n gadarnhaol mewn teulu.
"Mae Mabwysiadu Abertawe'n gweithio gyda phlant o bob oed y mae angen amgylchedd teuluol diogel a sefydlog arnynt."
Meddai Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les: "Mae penderfynu mabwysiadu'n amlwg yn benderfyniad mawr i unrhyw gwpl neu unigolyn a byddwn yn hapus iawn i glywed gan unrhyw ddarpar rieni mabwysiol. Bydd unrhyw un â diddordeb yn derbyn gwasanaeth cynnes a phroffesiynol gan dîm Mabwysiadu Abertawe."
Meddai Gwenda Thomas AC, Dirprwy Weinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol: "Roedd yn fraint cael bod yn rhan o lansiad ymgyrch Mabwysiadu Cymru. Mae'r her yn glir - mae angen i ni recriwtio, cymeradwyo a chefnogi mwy o bobl sydd am fabwysiadu yng Nghymru er mwyn ateb y galw am deuluoedd newydd fabwysiadu plant.
"Hyderaf y bydd yr ymgyrch hon, a'r bartneriaeth yn ei gyfanrwydd, yn llwyddiannus iawn yn ei hymgyrch i gynyddu nifer y bobl sydd am fabwysiadu."