Mwy o Newyddion
Y Cynulliad Cenedlaethol yn pasio ei Fil Aelod Preifat cyntaf
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pasio Bil Aelod Preifat cyntaf y Pedwerydd Cynulliad.
Cyflwynwyd y Bil Cartrefi Symudol (Cymru) gan Peter Black AC, un o’r Aelodau dros Orllewin De Cymru, a bydd yn sefydlu system drwyddedu ar gyfer safleoedd cartrefi symudol preswyl yng Nghymru.
Cafodd ei basio drwy bleidlais gan y Cynulliad Cenedlaethol yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Dywedodd Mr Black, “Rwy’n falch iawn ein bod wedi cyrraedd sefyllfa lle y bu’n bosibl i’r Bil Aelod Preifat cyntaf ers i’r Cynulliad gael pwerau deddfu sylfaenol yn 2011 gael ei basio a dod yn Ddeddf.”
“Mae’r Bil hwn yn cyflwyno system drwyddedu fodern ar gyfer safleoedd cartrefi symudol ledled Cymru. Bydd yn rhoi i breswylwyr cartrefi symudol y sicrwydd angenrheidiol y mae ei angen arnynt ac yn rhoi arfau i awdurdodau lleol a fydd yn eu galluogi i oruchwylio safleoedd cartrefi symudol yn eu hardaloedd hwy mewn modd effeithiol, gan sicrhau bod rheolwyr safleoedd yn bobl addas.
“Mae hwn hefyd yn un o’r Biliau cyntaf ar gyfer Cymru yn unig: mae’n cynnwys nodweddion o holl ddeddfwriaeth flaenorol y DU flaenorol ac yn ei rhoi ar waith, fel y’i diwygiwyd i fod yn gymwys i safleoedd yr ochr hon o’r ffin yn unig.
“Ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael Cydsyniad Brenhinol a phan fydd y Gweinidog wedi cychwyn y ddeddfwriaeth, bydd gennym Ddeddf gyfoes a chynhwysfawr a fydd yn gwarchod perchnogion cartrefi rhag llawer o’r ffyrdd yr oedd y ddeddfwriaeth yn cael ei chamddefnyddio a’r anghysondebau deddfwriaethol yr oeddent yn eu hwynebu yn y gorffenol.”
Llun: Peter Black