Mwy o Newyddion
Gwneud gwelliannau er gwaetha'r gwasgfeydd ariannol
Casgliad Swyddfa Archwilio Cymru yw bod y gwasanaethau yn Sir Gaerfyrddin yn dal i gael eu gwella er gwaetha'r gwasgfeydd ariannol.
Mae'n rhaid i'r Cyngor Sir lunio adroddiad blynyddol a chynllun gwella er mwyn darparu gwybodaeth i'r cyhoedd am ei wasanaethau.
Yna mae Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio'r ddwy ddogfen ar ran Llywodraeth Cymru.
Casgliad yr Archwilydd Cyffredinol oedd bod y Cyngor yn dal i wella ei wasanaethau, a bod y Cyngor yn debygol o ddal ati i wneud gwelliannau yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.
Croesawyd y newyddion gan Fwrdd Gweithredol y Cyngor, a oedd yn cwrdd yn gynharach yr wythnos hon.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge, Arweinydd y Cyngor: “Mae cael adroddiad dilychwin gan Swyddfa Archwilio Cymru yn gysur mawr.
“Rydym ni am ddarparu'r gwasanaethau gorau a fedrwn i bobl y Sir, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i gyflawni hynny.
“Heb unrhyw amheuaeth mae hyn yn mynd i fod yn fwyfwy anodd yn y dyfodol o gofio'r heriau ariannol rydym yn eu hwynebu.”
Yr unig argymhelliad gan Swyddfa Archwilio Cymru oedd y dylai fod gan y cynghorwyr fwy o gyfraniad o ran datblygu prif flaenoriaethau a chynllun gwella yr Awdurdod ac o ran craffu ar hynny.
Mae copi o lythyr Swyddfa Archwilio Cymru ar www.sirgar.gov.uk
Llun: Kevin Madge