Mwy o Newyddion
Helpu pobl hŷn a’r rheiny sydd â dementia
Mae gwasanaeth cymorth newydd wedi’i lansio i gynorthwyo pobl hŷn a’r rheiny sydd â dementia yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Cymorth Cartref Sir Gâr wedi’i ddatblygu gan dîm Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Caerfyrddin, mewn ymgais i helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth.
Mae’r gwasanaeth ar gael i bobl 55 oed a drosodd, neu unrhyw un sydd â dementia.
Nid yw’r gwasanaeth wedi’i gyfyngu i denantiaid y cyngor; gall perchnogion tai preifat a’r rheiny sy’n byw mewn tai rhent preifat dderbyn cymorth.
Gall y tîm drefnu unrhyw beth o addasiadau bychain i’r cartref i adolygiad o ddiogelwch y cartref; gallant roi cymorth tymor byr i bobl sy’n gadael yr ysbyty, neu roi gwybod i bobl am fannau lle gallant gyfarfod a chymdeithasu ag eraill.
Hefyd, mae’r swyddogion wedi’u hyfforddi i helpu pobl i glirio dyledion, cynyddu eu hincwm drwy hawlio budd-daliadau, a gallant hyd yn oed helpu i ddatrys anghydfod rhwng cymdogion.
Roedd Margaret Williams o Gaerfyrddin ymhlith y rhai cyntaf i ymuno â’r gwasanaeth.
Meddai Margaret, sy’n 81 oed: “Mae’r gwasanaeth hwn yn wych – mae e wedi gwneud cymaint o wahaniaeth.
"Rwy’n dioddef o glefyd Parkinson, sydd wedi effeithio ar fy nghydbwysedd ac wedi fy arafu, felly maen nhw wedi gosod canllawiau a Llinell Gofal.
"Hefyd, maen nhw wedi creu ardal dim galw diwahoddiad sy’n wych, gan fy mod i’n ei chael yn anodd cyrraedd y drws. Nawr, rwy’n teimlo’n fwy diogel.”
Meddai’r Cynghorydd Tegwen Devichand, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai: “Rydym yn falch ein bod yn gallu cynnig y gwasanaeth cymorth hwn. Rydym yn gwybod y bydd yn gwneud gwir wahaniaeth i lawer o bobl.”
I gael gwybod mwy, ffoniwch 01269 598206 neu anfonwch neges e-bost i: cymorthtai@sirgar.gov.uk
Llun: Margaret Williams, 81 oed, o Gaerfyrddin, gydag Amanda Jones o Gyngor Sir Caerfyrddin, sy’n aelod o dîm Cymorth Cartref Sir Gâr. Llun Jeff Connell