Mwy o Newyddion
Gwrthwynebu ymestyn ardal prawf Adar Angau
Penderfynodd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn ei gyfarfod nos Fercher ym Mhorthmadog i brotestio yn gryf yn erbyn ymestyn ardal prawf yr Adar Angau (Drones) i Faes Awyr Llanbedr ger Harlech.
Meddai llefarydd ar ran y gymdeithas: "Mae'r Awyrennau Di-beilot yn cael eu defnyddio yn bennaf ar gyfer dibenion milwrol yn Afghanistan, Pacistan a Gaza lle maent yn lladd terfysgwyr ond yn aml hefyd yn lladd sifiliaid.
"Bydd estyniad y profion o Aber-porth i gynnwys Llanbedr yn golygu hedfan dros Fae Ceredigion a allai amharu ar longau pleser a physgota.
"Mae sŵn yr Adar Angau yn hedfan ar hyd yr arfordir yn gallu hefyd atal twristiaid rhag dod i’r ardal yn ogystal â chynyddu'r risg o ddamweiniau.
"Prif bryder Cymdeithas y Cymod yw'r defnydd anfoesol o awyrennau di-beilot mewn rhyfel lle gall “peilot” yn Waddington bwyso botwm i fomio pobl yn Afghanistan o bell heb unrhyw berygl iddynt hwy eu hunain.
"Mae yna 50 o farwolaethau sifil i bob un terfysgwr a ledir drwy ddefnyddio'r Drones yn yr hyn a elwir yn "gweld a lladd".
"Mae'r ffaith y bydd arfordir prydferth Bae Ceredigion nawr yn cael ei ddefnyddio o Aber-porth i Lanbedr i hedfan a phrofi’r Drones hyn yn ein gwneud ni yn rhan o system lladd sy'n ymestyn i Afghanistan.
"Bydd cangen Porthmadog o Gymdeithas y Cymod yn awr yn codi ymwybyddiaeth leol o oblygiadau datblygiad hwn ar dwristiaeth leol a swyddi morol er mwyn yr ychydig o swyddi parhaol ychwanegol efallai a fydd yn Llanbedr."