Mwy o Newyddion
Cyhoeddi safle dewisol y Parc Gwyddoniaeth
CYHOEDDWYD heddiw mai safle 50 erw yng Ngaerwen yw safle dewisol y parc gwyddoniaeth newydd fydd yn gwasanaethu gogledd orllewin Cymru.
Mae’r safle, sy’n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn ar hyn o bryd, yn un o dri safle ar Ynys Môn oedd ar restr fer tîm project y parc gwyddoniaeth.
Dywedodd Ieuan Wyn Jones, cyfarwyddwr y Parc Gwyddoniaeth: “Ar ôl proses fewnol drylwyr, rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod gennym safle dewisol i broject y parc gwyddoniaeth, fydd yn allweddol i greu swyddi da yng ngogledd orllewin Cymru.
“Bydd y parc yn gartref i brojectau ymchwil sy’n gysylltiedig â diwydiant ac ymchwil sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, sydd naill ai’n rhan o Brifysgol Bangor eisoes neu’n rhan o fusnesau bach a chanolig neu gwmnïau mawr.
“Trwy gynnig adeiladau cyfoes a’r adnoddau diweddaraf, rydym yn gobeithio denu gweithgareddau ymchwil a datblygu busnesau bach a chanolig sydd â’r potensial i dyfu a chwmnïau mawr a rhai o’r ymchwilwyr gorau i Gymru.
Llun: Ieuan Wyn Jones