Mwy o Newyddion
Gweithio ar y cyd a chyfnewid gwybodaeth am gwynion
Heddiw fe lofnododd Comisiynydd y Gymraeg ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gytundeb o ran cydweithredu, gweithio ar y cyd a chyfnewid gwybodaeth.
Mae’r Comisiynydd a’r Ombwdsmon yn cytuno i gyfeirio cwyn sy’n ymwneud yn bennaf â materion y mae’r sefydliad arall yn gyfrifol amdano (sef yr iaith Gymraeg neu weinyddu cyhoeddus) at y naill a’r llall.
Mae’r cytundeb hwn yn ehangu ar yr adran yn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 lle amlinellir i ba raddau y gall Comisiynydd y Gymraeg weithio ar y cyd ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Bydd modd iddynt gydweithredu mewn perthynas ag ymchwiliad, gynnal ymchwiliad ar y cyd a pharatoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Mae rôl yr Ombwdsmon a fy rôl i fel Comisiynydd yn debyg iawn o ran natur. Rydym yn derbyn cwynion gan y cyhoedd ac yn gweithio tuag at sicrhau eu bod yn cael eu datrys yn foddhaol er mwyn gwella’r profiad i’r defnyddiwr.
"Trwy lofnodi’r cytundeb rydym yn ffurfioli’r berthynas ac yn cytuno i weithio yn unol â’r egwyddorion craidd y mae’r ddau sefydliad yn eu hybu.”
Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Peter Tyndall: “Mae’r cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl derbyn darpariaeth gwasanaeth di-dor gan gyrff cyhoeddus.
"Golyga lofnodi’r Memorandwm hwn y byddwn ni yn ein tro yn sicrhau y bydd cwynion pobl am ddarpariaeth gwasanaeth yn cael eu trin mewn modd di-dor.”
Llun: Meri Huws a Peter Tyndall yn arwyddo'r gytundeb