Mwy o Newyddion
Angen gwneud cynnydd sylweddol i sicrhau bod pobl hŷn yn ysbytai Cymru’n cael eu trin ag urddas a pharch
Wrth gyhoeddi ei hadroddiad cynnydd ‘Gofal gydag Urddas: Dwy Flynedd yn Ddiweddarach’ heddiw, dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, er bod nifer o welliannau wedi’i gwneud mewn gofal ysbyty, mae angen gwneud cynnydd sylweddol mewn ystod o feysydd allweddol i sicrhau bod yr holl bobl hŷn yn ysbytai Cymru’n cael eu trin ag urddas a pharch.
Dywed y Comisiynydd hefyd na ddylid goddef unrhyw fethiannau mewn gofal a bod yn rhaid i’r GIG yng Nghymru gofnodi, a gweithredu ar brofiadau cleifion yn llawer mwy effeithiol.
‘Gofal gydag Urddas: Dwy Flynedd yn Ddiweddarach’ yw’r ail adroddiad cynnydd yn dilyn Adolygiad y Comisiynydd i ganfod a yw pobl hŷn yng Nghymru’n cael eu trin ag urddas a pharch pan fyddant yn yr ysbyty.
Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad Adolygu yn 2011, datblygwyd cynlluniau gweithredu gan Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Felindre a Llywodraeth Cymru a fyddai’n arwain at y newidiadau a’r gwelliannau a ddisgwylid gan y Comisiynydd.
Meddai Sarah Rochira: “Fel Comisiynydd, rwyf yn cwrdd â phobl sy’n sôn wrthyf am y gofal rhagorol maent wedi ei gael yn yr ysbyty ac am y cymorth a gawsant pan oeddent ar eu mwyaf bregus.
"Ond, ac yn rhy aml o lawer, rwyf yn cwrdd â phobl, neu mae pobl yn cysylltu â mi, i sôn am y gofal dychrynllyd a gawsant.
“Rwyf wedi casglu tystiolaeth am amrywiaeth o gamau sy’n cael eu cymryd gyda’r nod o wella gofal i gleifion ac maent yn cael effaith bositif mewn llawer o achosion.
"Fodd bynnag, rhaid i’r GIG yng Nghymru’n awr drosi’r camau hynny’n ganlyniadau gwell i’r holl gleifion hŷn ym mhob rhan o Gymru ar lefel ward, ac yn enwedig mewn meysydd allweddol fel dementia a gofal ymataliaeth.
“Rhaid i’r GIG yng Nghymru wella ymhellach ei ddealltwriaeth o brofiad y cleifion a bod modd mesur effaith yr holl gamau sy’n cael eu cymryd yn awr yn effeithiol.
"Rhaid i hyn ddigwydd yn ddi-baid a dylid eu defnyddio nid yn unig i helpu i ddatblygu cynlluniau sy’n ymdrechu i wella gofal, ond hefyd i greu diwylliant o welliant parhaus.
"Mae tystiolaeth bendant sy’n dangos bod hyn yn digwydd, ond mae llawer iawn o waith i’w wneud eto.
“Mae’r hyn rwyf yn ei ddisgwyl gan y byrddau iechyd yn eglur. Rhaid i ni gael diwylliant sy’n rhan annatod o’r GIG yng Nghymru sy’n gwrthod derbyn na goddef gofal gwael ac sy’n credu bod methiant i ddysgu’n annerbyniol, rhaid iddynt ddangos eu bod yn cyflawni.
"Byddaf yn parhau i fonitro, craffu a chyhoeddi fy asesiadau o’r cynnydd a wneir gan y GIG yng Nghymru o safbwynt agweddau allweddol ar urddas mewn gofal.
"Os byddaf o’r farn nad oes cynnydd digonol yn cael ei wneud neu os bydd achosion o ofal gwael neu gam-drin yn parhau, gallaf gynnal adolygiad ffurfiol pellach ar lefel Bwrdd, Ysbyty neu Ward.
“Mewn geiriau eraill, rwyf yn disgwyl i’r GIG yng Nghymru gael pethau’n gywir i bobl hŷn.
"Ar ei orau, mae gofal iechyd yng Nghymru’n eithriadol, ac mae gennym lawer o staff gofal iechyd ymroddedig, ond eto, yn rhy aml, nid ydym yn llwyddo i gael yr hanfodion yn iawn ac mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar unigolion a’u teuluoedd.
“Mae fy ail adroddiad cynnydd yn dangos bod gwelliannau mawr ar droed yn y 12 maes a nodwyd gennyf fel rhai sydd angen eu gwella, ond mae cyfrifoldeb ar y GIG yng Nghymru’n awr i wneud yn siŵr bod gofal diogel, effeithiol o safon uchel ar gael i bawb, ac nid i rai’n unig.”