Mwy o Newyddion
Chwareli ar restr fer safleoedd treftadaeth
MAE Cyngor Gwynedd wedi croesawu cyhoeddiad y llywodraeth fod ardaloedd diwydiant llechi’r sir wedi eu cynnwys ar restr fer Gwledydd Prydain ar gyfer Safleoedd Treftadaeth y Byd fydd yn cael ei anfon at UNESCO.
Yn ei anterth yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif, roedd y diwydiant chwareli yn cyflogi miloedd a sbardunwyd ffyniant yr ardal. Mae etifeddiaeth y cyfnod llewyrchus hwn i’w weld a’i glywed hyd heddiw – yn nhirwedd, tanadeiledd, hanes, traddodiadau, iaith a dywediadau’r ardal.
Mae miloedd o bobl yn ymweld â’r ardal yn flynyddol eisoes, er mwyn cael blas ar sut bu i lechi o Wynedd gael eu cludo i bedwar ban byd; dylanwad y diwydiant ar ddiwylliant a ffordd o fyw’r cymunedau ac i weld gyda’u llygaid eu hunain sut bu i’r diwydiant drawsffurfio’r dirwedd.
Y gobaith nawr yw y bydd sêl bendith UNESCO yn arwain at hwb pellach i sefyllfa’r ardal fel atyniad ymwelwyr.
Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd Cymreig eraill i gyd yn atyniadau pwysig, sef cadwyn cestyll gogledd Cymru Edwart I; Tirwedd Hanesyddol Blaenafon a chamlas a thraphont ddŵr Pontcysyllte.
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Dyma newyddion da iawn, rydw i’n falch iawn fod y llywodraeth wedi adnabod pwysigrwydd diwydiant llechi Gwynedd i’r byd, ac rydw i’n edrych ymlaen at weithio efo cymunedau ardaloedd chwareli Gwynedd a’n partneriaid i ddatblygu ein cais i UNESCO.
“Mae tystiolaeth o ddylanwad y diwydiant i’w weld o’n cwmpas ym mhobman – y dirwedd drawiadol, yr adeiladau diwydiannol, rheilffyrdd stem a chei llechi, y rhesi o fythynnod chwarelwyr ac olion y technolegau a ddefnyddiwyd ar yr amser.
“Mae’r tociau balast ar yr arfordir yn dangos dylanwad y diwydiant yma a ledled y byd.
“Mae bywyd y chwareli hefyd wedi gadael ei farc ar gymeriad diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol yr ardal hefyd.”
Nid hen hanes yw’r diwydiant chwareli – mae’n cyflogi dros 1,000 o bobl yn yr ardal heddiw ac yn cyfrannu £31 miliwn i’r economi leol gan fod diwydiant chwareli Gwynedd yn cynhyrchu mwy na hanner y llechi a ddefnyddir drwy Brydain heddiw.
Mae Cyngor Gwynedd a’i phartneriaid eisoes yn buddsoddi mewn prosiectau cyfoes er mwyn adfywio’r ardaloedd chwareli, gan gynnwys:
cynllun £4m i adfywio Blaenau Ffestiniog;
ailddatblygu safle chwarel Glyn Rhonwy yn Llanberis fel safle datblygiad busnes strategol;
Ardal Adfywio Strategol Môn-Menai Llywodraeth y Cynulliad sy’n cynnwys dyffrynnoedd Ogwen, Nantlle a Pheris;
Menter Llechen Cymru sy’n annog cydweithio rhwng cynhyrchwyr llechi a sectorau twristiaeth, treftadaeth a diwylliant er budd pawb.