Mwy o Newyddion
Adleoli S4C, y cam nesaf
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd astudiaeth ddichonoldeb i’r posibilrwydd o symud rhannau o waith y sianel i ardaloedd eraill yng Nghymru yn parhau – ac y bydd cam nesaf yr astudiaeth yn canolbwyntio ar symud Pencadlys y Sianel i un o ddwy ardal, sef Caerfyrddin neu Wynedd.
Fe fydd cam nesaf yr astudiaeth yn edrych yn fanylach ar y posibilrwydd o symud pencadlys S4C i Gaerfyrddin neu Wynedd, gan gadw presenoldeb cryf i’r sianel yng Nghaerdydd. Wrth symud ymlaen â’r astudiaeth, fe fydd y Sianel yn cydweithio â grwp sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a Chyngor Gwynedd yng Ngwynedd. Y bwriad yw cwblhau’r astudiaeth yn hanner cyntaf 2014.
Yng ngham cynta’r astudiaeth, fe gafodd syniadau eu gwahodd gan sefydliadau cyhoeddus a phreifat ledled Cymru i weld a fyddai symud elfennau o waith S4C i rannau eraill o Gymru’n bosibilrwydd realistig. Cafodd y syniadau a dderbyniwyd eu gwerthuso yn ôl eu cynnwys, eu haddasrwydd i gwrdd â gofynion S4C, a’u heffaith ar y Gymraeg yn yr ardal ac economi’r ardal.
Roedd nifer fawr o sefydliadau wedi cynnig syniadau i S4C fel rhan o’r broses, ac mae’r sianel wedi diolch i bawb am eu cymorth a’u hawydd i wahodd S4C i’w hardaloedd.
Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Mae symud ymlaen i gam dau o’n hastudiaeth ddichonoldeb yn dangos ein bod ni’n mynd ati o ddifri i ystyried faint yn rhagor y gallwn ni yn S4C ei wneud i sicrhau bod Cymru gyfan yn elwa gymaint â phosib o’n bodolaeth fel sianel genedlaethol.
"Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld ffrwyth y gwaith ychwanegol fydd yn cael ei wneud nawr ar y cyd â’n partneriaid posib yng Nghaerfyrddin a Gwynedd.
“Os bydd modd yn y pen draw inni symud elfennau o’n gwaith i bencadlys newydd yng Nghaerfyrddin neu Wynedd, fe fyddai hynny’n ychwanegol i bresenoldeb cryf yng Nghaerdydd.
"Os ydyn ni’n penderfynu gwneud hynny ar ôl derbyn yr astudiaeth lawn, fe allai’r broses o symud gymryd sawl blwyddyn wrth gwrs. Ond does dim sicrwydd y byddwn ni’n symud o gwbl.
"Dwi am edrych ar y gwaith sy’n cael ei wneud ac os mai cadw at ein dau leoliad presenol fydd orau, rydym yn berffaith barod i dderbyn hynny.
“Hoffwn i ddiolch o galon i bawb sydd wedi cysylltu â ni yn S4C gyda’u syniadau a’u hawydd i geisio denu’r sianel i’w hardaloedd. Mae hi wedi bod yn bleser i weld y fath frwdfrydedd a mentergarwch sy’n bodoli ledled Cymru.”
Llun: Ian Jones