Mwy o Newyddion
Car 1,000mya yn dod i Gaerdydd
Ar ddydd Mawrth 24 Medi, bydd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol yn mynd â’r Car Uwchsonig Bloodhound ar ei ymweliad gyntaf a’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.
Bydd y model llawn maint o’r Car Uwchsonig Bloodhound yn cael ei arddangos i godi ymwybyddiaeth ymhlith plant ysgol, Aelodau Cynulliad a’r cyhoedd am brosiect Car Uwchsonig Bloodhound a’i fwriad o ysbrydoli cenhedlaeth am wyddoniaeth a pheirianneg.
Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol yw un o brif noddwyr Car Uwchsonig Bloodhound, sy’n bwriadu torri record cyflymder tir y byd drwy yrru dros 1,000 m.y.a. yn anialwch De Affrica yn 2015.
Bydd dros gant o blant o ysgolion lleol, gan gynnwys Ysgol Gyfun Glantaf, Ysgol Gynradd St Cuthburt a Choleg Castell Nedd Portalbot yn ymuno ag Aelodau Cynulliad i weld y car yn ystod y dydd. Byddant hefyd yn chwarae’r gem Bloodhound ar gyfer yr iPad ac adeiladu modeli o’r car Bloodhound gyda balŵns. Bydd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, yn ymweld â’r car am 12.30yh.
Dywedodd Gareth Cemlyn Jones, llefarydd rhanbarthol Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol yng Nghymru: “Rydym angen annog mwy o bobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (GTPM), i sicrhau bod gennym ni'r sgiliau angenrheidiol i gynnal yr economi ac er mwyn mwyn i'r afael â sialensiau mawr sy'n wynebu dynol ryw fel gorboblogaeth a newid hinsawdd.
“Nid yw'r nifer cyfredol o bobl sy'n dilyn gyrfaoedd GTPM yn ddigon i ymdopi â gofynion y dyfodol, dyma pam y mae ysbrydoli pobl ifanc trwy brosiect Car Uwchsonig Bloodhound mor bwysig.
“Rydym yn gobeithio trwy arddangos Car Uwchsonig Bloodhound y bydd pobl yn sylweddoli bod cyfleoedd hynod o gyffroes drwy ddilyn gyrfa mewn peirianneg a GTPM yn gyffredinol."