Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Medi 2013

Prifddinas hawliau plant y DU

Mae plant a phobl ifanc yn Abertawe yn apelio at gynghorwyr i ofyn iddynt gefnogi cynlluniau a fydd yn golygu bod Abertawe yn brifddinas hawliau plant y DU.

Gofynnir i gynghorwyr gytuno'r wythnos nesaf i fod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) ym mhopeth mae'n ei wneud.

Cyn i aelodau yn y cyngor llawn bleidleisio ar y mater, bydd disgyblion o ddwy ysgol gynradd yn Abertawe yn rhoi cyflwyniad iddynt i'w hannog i fabwysiadu'r confensiwn.

Mitch Theaker, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gyfleoedd i Blant a Phobl Ifanc, yw cydawdur yr adroddiad ar Hawliau'r Plentyn a fydd yn mynd gerbron y cyngor ar 24 Medi.

Meddai: "Mae'n gyffrous i feddwl y gallai Abertawe fod yr awdurdod lleol cyntaf yn y DU a hyd yn oed gogledd Ewrop i fabwysiadu ymagwedd mor bellgyrhaeddol at hawliau plant.

"Os bydd yr aelodau'n cytuno, mae'n golygu y bydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth briodol i hawliau plant. Golyga hynny caiff pob penderfyniad am blant a phobl ifanc ei brofi yn erbyn y CCUHP.

"Fodd bynnag, nid symbol yn unig yw hwn, mae'n golygu cymryd cam dewr ymlaen a fydd yn dylanwadu ar sut mae'r cyngor yn gweld, yn cefnogi ac yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc."

Cydawdur y Cyng. Theaker yw Will Evans, Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau. Meddai: "Os bydd y cyngor yn cefnogi'r hyn rydym yn ei gynnig, bydd yn ddechrau taith a fydd nid yn unig yn cyflwyno'r polisi CCUHP yn Abertawe, ond a fydd yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

"Os bydd llwyddiant cynnwys yr hawliau hyn dros y blynyddoedd diweddar yng ngwaith ein hysgolion yn ffon fesur, nid yn unig y bydd hyn yn gwella bywydau plant, ond hefyd yn rhyddhau eu potensial i chwarae rôl wrth greu Abertawe sydd ar ei gorau."

Mae ysgolion cynradd Blaenymaes a'r Hafod ymysg y rhai sydd eisoes wedi cynnwys y confensiwn drwy'r rhaglen ysgolion Parchu Hawliau a bydd disgyblion yn esbonio sut mae'r CCUHP yn gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau yng nghyfarfod y cyngor.

Meddai Bev Phillips, pennaeth Ysgol Gynradd Blaenymaes: "Mae wedi caniatáu i blant ddeall yn well pam rydym yn gweithio yn ffordd rydym yn gweithio a dylanwadu ar newid er gwell.

"Mae plant yn hapusach yn yr ysgol, maent am ddod i'r ysgol yn y bore ac maent am helpu ei gilydd i ddysgu.

"Maent yn fwy hyderus ac yn gallu ac yn fodlon chwarae rôl hanfodol o ran sut mae'r ysgol yn datblygu ac yn symud ymlaen. Mae hefyd wedi helpu i ddod â'r gymuned ehangach yn agosach hefyd."

Bydd y cynigion, a fydd yn cael eu hystyried gan y cyngor ar 24 Medi, yn adeiladu ar waith hirsefydlog yr awdurdod i wireddu a chefnogi hawliau plant a phobl ifanc drwy ei bolisïau a'i arferion.

Os bydd y cyngor yn cytuno i roi'r cynigion sydd wedi'u datblygu ar waith, bydd y CCUHP yn dod yn rhan o bolisi'r cyngor. Mae'n golygu y bydd dyletswydd ar y cabinet i roi ystyriaeth briodol i hawliau plant a phobl ifanc.

Caiff Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc blynyddol ei gyhoeddi i roi gwybod i bobl yn Abertawe am yr hyn y mae'r cyngor yn ei wneud i gynnwys ystyriaeth briodol a hawliau plant yn ei waith a bydd yr awdurdod yn parhau i weithio'n agos â Phrifysgol Abertawe i sicrhau bod yr hyn y mae'n ei wneud yn gweithio ac yn dryloyw. 

Llun: Mitch Theaker

Rhannu |