Mwy o Newyddion
Ymateb WWF Cymru i ddatganiad Morglawdd Hafren
Gan ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig nad yw’r ddadl dros Forglawdd Hafren wedi cael ei phrofi, dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru: “Rydyn ni’n falch bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod y cynigion ar gyfer Morglawdd Hafren, yn wyneb pryderon difrifol gan lawer o sefydliadau amgylcheddol, gan gynnwys WWF Cymru.
“Mae’n bwysig i ni symud ymlaen yn awr a dod o hyd i ffyrdd sy’n fwy cynaliadwy’n amgylcheddol o harneisio ynni’r môr.
"Rydyn ni’n cefnogi newid ar raddfa fawr i ynni adnewyddadwy fel y gallwn gael cyflenwad ynni fforddiadwy a dibynadwy yn ogystal ag amgylchedd iach.
“Mae adroddiad WWF Positive Energy yn dangos ei bod yn berffaith bosibl i ynni adnewyddadwy ateb o leiaf 60% o’r galw am drydan yn y Deyrnas Unedig erbyn 2030.”