Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Medi 2013

Dadlau dros reoliadau safonau bwyd llym

Mae Jill Evans ASE wedi mynegi pryderon ynglŷn â bwriad Comisiwn Ewrop i newid y rheolau ynglŷn â chynnal archwiliadau o ladd-dai.

Cafwyd gwrthwynebiad i’r Rheoliadau gan yr ASE Plaid Cymru, sydd yn golygu y bydd angen iddo ddod o flaen Pwyllgor yr Amgylchedd yr wythnos nesaf.

Dywedodd Jill Evans ASE: “Yn dilyn y scandal cig ceffyl, mae hyder y cyhoedd yn y diwydiant cig yn isel.

"Mae’r Undeb Ewropeaidd yn deddfu er mwyn sicrhau bod safonau bwyd yn cael eu cynnal.

"Bydd adroddiad sylweddol yn cael ei ryddhau ar ddiwedd y flwyddyn hon pan ellir trafod y materion hyn mewn manylder.

"Dydw i ddim yn cytuno gyda’r cynnig a rhaid iddo gael ei drafod gan Aelodau Seneddol Ewropeaidd.

"Rwy’n ddiolchgar i Unsain am ddod â hwn at fy sylw. Er nad yw hwn yn fater sy’n ymwneud â diogelwch bwyd, mae hwn yn sicr yn ymwneud â’i ansawdd.

"Mae’n ddyletswydd arna i fel ASE i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu bod yn hyderus eu bod yn prynu cig o ansawdd uchel."

Llun: Jill Evans MEP gyda Josef Schulze Spüntrup, Stephane Touzet a Ron Spellman

Rhannu |