Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Medi 2013

Elusennau’r Cyn Gadeirydd

Mae cyn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi helpu i brynu peiriannau newydd i feddygfeydd lleol.

Elusennau’r Cyng. Siân Thomas y llynedd oedd offer arbenigol i Ysbyty Glanaman, y cartref pwrpasol i ddioddefwyr dementia yn Nyffryn Aman, a Chymdeithas Clefyd Siwgr Cwm Gwendraeth.

Mae’r Cyng. Thomas, gyda chyd weithrediad  Cymdeithas Clefyd y Siwgr, wedi noddi peiriannau newydd i’r feddygfeydd lleol.

Yn y llun, o’r chwith, fe welir Dorian Richards o’r Gymdeithas Clefyd Siwgr a’r Cyng. Siân Thomas; Mair Griffiths, ysgrifenyddes y Gymdeithas; Karen Marshall, nyrs y feddygfa; a Sharon Davies, Rheolwr Meddygfa Penygroes.

Gobeithio fydd yr offer yn fodd o ddarganfod salwch yn gynt ac yn fodd felly i wella iechyd y gymuned.

Dywedodd y Cyng. Thomas, sy’n gweithio dros Gymdeithas Clefyd Siwgr fel ymgyrchydd a darlithydd: “Fel un sy’n dioddef o’r clefyd, roeddwn ni eisiau helpu Cymdeithas Clefyd Siwgr Cwm Gwendraeth i brynu offer arbenigol i adnabod a thrin y clefyd yn ein meddygfeydd.”

Rhannu |