Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Medi 2013

Ymweliad y Prif Weinidog â gogledd Ffrainc i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf yn parhau

BU Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn ymweld â maes brwydr y Somme ddoe fel rhan o daith o amgylch meysydd brwydrau gogledd Ffrainc a Gwlad Belg ar ddechrau’r rhaglen Gymreig i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu yn ymweld â Choed Mametz, lle mae’r gofeb i filwyr Cymreig a laddwyd yn ystod Brwydr y Somme yn 1916. Mae’r gofeb yn cael ei hailwampio gydag arian gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae Brwydr Coed Mametz yn hynod bwysig i Gymru. Fe wnaeth hi achosi colledion difrifol ymysg y lluoedd Cymreig a fu’n ymladd yno, ac mae hefyd yn parhau i ysbrydoli cyfoeth o waith celfyddydol a diwylliannol sy’n dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn ystyried y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.

“Rhaid inni barhau i gofio’r dynion a ymladdodd yma, a’u hanrhydeddu nhw a’r niferoedd tebyg iddyn nhw.

"Mae’r gofeb hon, fel yr un newydd a godir yn Fflandrys, sef y safle y bûm iddo ddoe, yn ffordd bwysig iawn o atgoffa ac addysgu’r genhedlaeth hon, a chenedlaethau’r dyfodol, am y Rhyfel.

"Rydw i’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyfrannu at y gwaith o’i hailwampio.

Roedd cyfle hefyd  i’r Prif Weinidog gyfarfod ag aelodau o gangen de Cymru o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin, a gododd yr arian i godi’r gofeb yn wreiddiol yn yr 1980au, yn ogystal ag aelodau o’r gymuned leol.

Mae’r gofeb i Adran 38 (Gymreig) allan yn y wlad yng nghyffiniau pentref bach Mametz yn rhanbarth Picardie, a hynny uwchben Coed Mametz, sef nod yr Adran Gymreig yn y frwydr yn 1916. Roedd y frwydr yn rhan o Frwydr y Somme, sef un o frwydrau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf pryd y cafodd mwy na miliwn o filwyr ar y ddwy ochr eu lladd neu eu hanafu. Ym Mrwydr Coed Mametz ei hun, achoswyd marwolaeth neu anafiadau i 4,000 o ddynion o Adran 38, ac mae’r gofeb yn eu coffáu nhw a’u cydfilwyr.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, y byddai Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £7,000 tuag at y gwaith o ailwampio’r gofeb. Mae Cymdeithas Ffrynt y Gorllewin wedi codi arian ychwanegol i wneud gwaith atgyweirio arall i safle’r gofeb, a disgwylir y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn yr haf nesaf.

Mae deuddydd o ymweliad y Prif Weinidog â Fflandrys a Picardie yn cychwyn y rhaglen Cymru’n Cofio - Wales Remembers 1914-1918 i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Rhannu |