Mwy o Newyddion
Cymdeithas yr Iaith yn trefnu parti i Gyngor Sir Gâr
Ddoe, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith wahoddiad parti i Terry Davies, Cadeirydd Cyngor Sir Gâr a Chris Byrne, Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Sir Gâr.
Mae'r gwahoddiad i barti yn uned y Cyngor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ym mis Awst flwyddyn nesaf.
Bwriad cynnal y digwyddiad fydd i ddathlu strategaeth newydd y Cyngor Sir ar gyfer sicrhau dyfodol i’r Gymraeg ac i gymunedau Cymraeg y Sir.
Disgwylir y bydd rhyw 1000 o bobl yn dymuno dod i’r parti i gyd-ddathlu!
Esboniodd Bethan Williams, Swyddog Maes Cymdeithas yr iaith: “Rydyn ni’n hyderus y bydd Terry Davies yn cyfleu i’r Cyngor bod angen i Weithgor y Cyfrifiad a ffurfiwyd gan y Cyngor yn argymell strategaeth newydd radicalaidd a fydd yn diogelu dyfodol yr iaith a’r cymunedau Cymraeg pan fyddant yn adrodd yn y Gwanwyn.
"Mae Cymru gyfan yn gwylio’r hyn sydd yn digwydd yn Sir Gaerfyrddin. Roedd cwymp syfrdanol yn y niferoedd sy’n siarad Cymraeg yn y Sir yn y Cyfrifiad diwethaf.
"Ein gobaith a’n disgwyliad yw y bydd hyn yn hwb i’r Cyngor lunio strategaeth a fydd yn cael ei ddyblygu ar draws gweddill y wlad.
"Rydym wedi bod yn feirniadol o’r Cyngor yn y gorffennol ac rydym wedi troi at weithredu uniongyrchol i fynegi’n pryderon.
"Daeth 500 o bobl i Rali a drefnwyd gennym ym mis Ionawr tu fas i Neuadd y Sir i fynnu fod y Cyngor yn gweithredu.
"Ond, rydym yn fodlon ac yn hapus i longyfarch pan fo’n briodol, ac wrth ddisgwyl strategaeth a gweithredu gan y Cyngor rydym yn trefnu’r dathliad hwn ar faes yr Eisteddfod. Disgwyliwn y bydd cefnogwyr o Gymru benbaladr yn ymuno â ni ac felly bydd rhyw 1000 o bobl yn y parti.
"Rydym yn siwr na fydd y Cyngor yn dymuno siomi’r bobl yma nac am siomi’r bobl sy’n brwydro dros ddyfodol eu cymunedau’n Sir Gâr.”
Ychwanegodd Ms Williams: “Sylweddolwn fod angen amser ar y Cyngor i lunio strategaeth newydd, radical i ddiogelu’r iaith a’r cymunedau Cymraeg ond pwysleisiwn ei fod hefyd yn fater brys.
Trwy gyhoeddi’r bwriad i gynnal dathliad 300 diwrnod cyn y parti’n yr Eisteddfod pwysleisiwn na fydd y mater hwn yn diflannu.
Byddwn yn gweithredu’n gyson yn ystod y 300 diwrnod i dynnu sylw at yr anhawsterau sy’n wynebu pobl sy’n dymuno byw yn Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin ac i dynnu sylw at y problemau sy’n wynebu’n cymunedau Cymraeg.”