Mwy o Newyddion
Bws Caerfyrddin-Aberteifi yn fwyfwy poblogaidd
YN groes i'r duedd gyffredinol mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio gwasanaeth bysiau 460 o Gaerfyrddin i Aberteifi ar gynnydd.
Stori lwyddiannus yw hon am y twf sydd wedi bod o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y teithwyr ar wasanaeth 460.
Mae mwyfwy o deithwyr yn defnyddio gwasanaeth 460 a phrin iawn, os o gwbl, yw'r gwasanaethau bysiau eraill yng Nghymru a all ddweud yr un peth.
Roedd cynnydd o 9.1 y cant yn y defnydd o wasanaeth 460 yn 2011 a chynnydd o 5.9 y cant yn 2012, ac eleni bu cynnydd o 5% yn nifer y teithwyr rhwng Ionawr a Gorffennaf.
Mae'r ffigyrau'n cyfateb i gynnydd o bron 100 o siwrneiau teithwyr y dydd ar gyfartaledd dros gyfnod o 12 mis rhwng 2011 a 2012 ac i gynnydd o fwy na 60 o siwrneiau teithwyr y dydd rhwng Gorffennaf 2012 a Gorffennaf 2013.
Mae'r defnydd ychwanegol a wneir o'r gwasanaeth yn cael ei ategu gan gynnydd yn y defnydd o Fwcabus.
Er mwyn helpu â'r galw cynyddol gan deithwyr, o 30ain Medi 2013 ymlaen bydd siwrnai newydd yn cael ei ychwanegu yn gynnar yn y bore at wasanaeth 460 o Gaerfyrddin i Gastellnewydd Emlyn, er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd teithio i bobl o ran gwaith a hamdden.
Dywedodd y Cynghorydd Colin Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Drafnidiaeth: “Gwaith caled ein tîm trafnidiaeth a chydweithrediad y ddau ddarparwr sef Brodyr Richards a Morris Travel sy'n gyfrifol am y cynnydd sylweddol hwn yn nifer y teithwyr ar wasanaeth 460.
“Pan fydd teithwyr yn poeni nad oes digon yn defnyddio eu bws, mae'n rhaid inni ddweud wrthyn nhw'n aml am ddefnyddio'r gwasanaeth neu wynebu'r posibilrwydd o'i golli. Mae cyfyngiadau economaidd ar y gwasanaethau yn y cyfnod anodd hwn o leihau cymorthdaliadau ac o wasgfeydd ar weithredwyr.
“Rwy'n falch dros ben fod pobl yn helpu i sicrhau dyfodol gwasanaeth bysiau 460 drwy fynd ati i'w ddefnyddio.