Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Medi 2013

Ymgyrchwyr yn cynnal Rali dros Ysgol Gymraeg

Bydd Ymgyrch TAG yn cynnal Rali a Phicnic o flaen Neuadd y Ddinas ym Mharc Cathays, Caerdydd, dydd Sadwrn.

Trefnwyd y Rali fel rhan o ymgyrch sy’n galw ar Gyngor Caerdydd i anrhydeddu eu haddewid i sefydlu ysgol Gymraeg yn Grangetown.

Yn unol ag ysbryd trawsbleidiol yr ymgyrch, cafodd pob un o’r pleidiau gwleidyddol wahoddiad i anfon cynrychiolydd i annerch y dorf

Cyflwynir y Rali gan Sioned Mills, rhiant lleol ac un o Is-gadeiryddion yr ymgyrch, ac mae rhestr y siaradwyr yn cynnwys Leanne Wood AC; Ben Fodey, cyn-gynghorydd sy’n byw yn Nhrebiwt; Cyng Judith Woodman a’r Cyng Neil McEvoy.

Meddai Dr Dyfed Wyn Huws, cyd-Gadeirydd Ymgyrch TAG, “Mae’r rali hon yn garreg filltir nodedig yn yr ymgyrch ac yn gyfle i fynegi’r cryfder teimlad o blaid sefydlu ysgol Gymraeg yn Grangetown

"Yr hyn sy’n galonogol yw fod yr ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth, ac mewn cyfnod byr o amser, wedi ennill cefnogaeth nid yn unig o fewn y gymuned leol yn Grangetown ond ledled Caerdydd a thu hwnt.

"Rydym hefyd wedi’n calonogi bod amcanion yr ymgyrch wedi llwyddo i ennyn datganiadau o gefnogaeth nifer o gynghorwyr, gan gynnwys rhai o’r Blaid Lafur, sy’n dangos fod y momentwm yn cynyddu a’r egwyddor o ysgol Gymraeg i Grangetown yn adeiladu consensws gwleidyddol lleol.

"Hyderwn bydd y rali’n gyfle i ddod a rhieni, cefnogwyr a gwleidyddion ynghyd er mwyn adlewyrchu’r undod barn hwnnw.”

Ychwanegodd Jo Beavan Matcher, Cyd-gadeirydd Ymgyrch TAG: “Bydd y rali’n lwyfan pellach i amlygu’r rhwystrau presennol sy’n llyffetheirio cymunedau difreintiedig a lleiafrifoedd ethnig rhag cael mynediad hygyrch at addysg Gymraeg, yn ogystal â’r amodau sy’n parhau i anfanteisio’r iaith Gymraeg yn y rhan yma o’r ddinas

" Ffaith syfrdanol yw fod plant o gefndiroedd lleiafrifol ethnig Trebiwt, ar hyn o bryd yn gorfod teithio i Benarth er mwyn derbyn addysg Gymraeg, gan mai dyma’r ddarpariaeth agosaf i’w cartrefi.

"Nid oes modd cyfiawnhau sefyllfa o’r fath. Ein gobaith yw bydd y Rali’n hwb pellach tuag at ddarbwyllo’r cyngor i weithredu’n gadarnhaol dros blant a theuluoedd Grangetown a Threbiwt, gan sicrhau nad opsiwn i’r lleiafrif yw Addysg Gymraeg ond dewis gwirioneddol i’r mwyafrif.”

Llun: Leanne Wood

Rhannu |