Mwy o Newyddion
Tynnu sylw at y rhwystrau y mae pobl hŷn Cymru yn eu hwynebu bob dydd
Mae adroddiad newydd – ‘Mil o fân rwystrau’, a gyhoeddir gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru - yn archwilio’r rhwystrau diangen sy’n achosi i heneiddio fod yn broses fwy anodd nag sydd raid iddi fod.
Mae pobl hŷn o bob rhan o Gymru wedi rhannu eu profiadau ynglŷn â’r rhwystrau a wynebant mewn sawl agwedd o’u bywydau, gan gynnwys diffyg cyfleusterau cymunedol fel seddi cyhoeddus a thoiledau cyhoeddus, cludiant annigonol ac anhawster i gael mynediad at ystod o wasanaethau cymorth a chefnogaeth.
Bydd y Tasglu Toiledau, Cludiant a Biniau sydd newydd gael ei sefydlu gan y Comisiynydd yn defnyddio’r profiadau a gynhwysir yn yr adroddiad i gefnogi eu gwaith i sicrhau nad yw llunwyr polisïau a phenderfyniadau yn esgeuluso’r gwasanaethau a’r gefnogaeth bob dydd hanfodol y mae pobl hŷn yn dibynnu arnynt a sicrhau hefyd nad yw’r gefnogaeth a’r gwasanaethau hyn diflannu yn y blynyddoedd i ddod wrth i gyllidebau grebachu.
Dywed Sarah Rochira: “Wrth i mi deithio ar hyd a lled y wlad gyda fy Sioe Deithiol Ymgysylltu, mae llawer o bobl yn sôn wrthyf am y bywydau hapus, iach a bodlon y maent yn eu byw, bywydau lle cânt gyfle i dreulio amser gyda’u câr a’u cyfeillion, a chymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o fudd iddynt hwy eu hunain ac i’w cymunedau ehangach.
“Ond yn rhy aml, mae hyd yn oed y bobl hŷn mwyaf egnïol a dyfeisgar yn wynebu byd sydd fel pe bai yn llawn o ‘filoedd o rwystrau mân sydd yn y ffordd’, fel y dywedodd person hŷn y cyfarfûm ag ef yn ddiweddar yng Nghaerdydd. Mae pobl hŷn yn hynod wydn, ac yn dda am ymdopi ag anawsterau, ond mae’r rhwystrau hyn yn gwneud i’r broses o heneiddio fod yn fwy anodd nag sydd raid. I rai, gall wneud i’r tasgau symlaf hyd yn oed deimlo fel brwydr gyson.
“Dim ond rhai o’r pethau a ddywedodd pobl wrthyf sydd wedi’u cynnwys yn fy adroddiad – adroddiad sy’n rhoi llais i’r bobl hynny a rannodd eu profiadau â mi. Rwyf am sicrhau nad oes modd mwyach i’r lleisiau hyn gael eu hanwybyddu gan y bobl sy’n darparu’r gwasanaethau y mae pobl hŷn yn dibynnu arnynt.”
Gan adeiladu ar y wybodaeth sydd eisoes wedi’i chasglu, mae’r Comisiynydd yn parhau i gronni profiadau pobl hŷn drwy ei Sioe Deithiol Ymgysylltu a thrwy gyfrwng cyfres o grwpiau ffocws sy’n cael eu cynnal ledled Cymru. Gall pobl hŷn hefyd gysylltu’n uniongyrchol â swyddfa’r Comisiynydd i rannu eu profiadau a chefnogi ei gwaith yn chwalu’r rhwystrau a wynebant yn eu bywydau.
Ychwanega Sarah Rochira: “Gallwn feddu ar y polisïau a’r strategaethau gorau yn y byd, ond wnawn nhw ddim gronyn o wahaniaeth i ansawdd bywyd pobl hŷn os yw gwasanaethau cymunedol, cefnogaeth a chyfleusterau sylfaenol yn anodd eu cyrraedd neu’n diflannu yn y blynyddoedd i ddod. Rhaid i ni beidio ag anghofio pa mor bwysig yw’r pethau hyn o ran helpu pobl hŷn i fynd o fan i fan, cadw mewn cysylltiad â’u cymunedau a chynnal eu hannibyniaeth.
“Dros y misoedd i ddod, byddaf yn gweithio gyda grwpiau o bobl hŷn ar hyd a lled Cymru, yn ogystal â’r rhai sy’n cynllunio, dylunio, datblygu a darparu gwasanaethau, er mwyn gweld sut y gallwn sicrhau newid go iawn a gwella pethau.
"Gyda’n gilydd, gallwn chwalu’r rhwystrau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu’n rhy aml o’r hanner a, thrwy wneud hynny, gwneud Cymru’n lle da i heneiddio - nid dim ond i rai, ond i bawb.”